Fforymau
Mae Age Cymru Gwynedd a Môn yn trefnu Fforymau Pobl Hŷn Ynys Môn ar ran Cyngor Môn. Caiff y cyfarfodydd fforymau eu cynnal yn chwarterol ac maent yn gyfle i fynychwyr dderbyn gwybodaeth am wasanaethau lleol, i fwydo fewn i ymgynghoriadau lleol a chenedlaethol ac i leisio barn ar bryderon lleol a materion lleol. Mae sgyrsiau wedi eu rhoi mewn fforymau blaenorol gan Gomisynydd Pobl Hŷn Cymru, Swyddogion Cyngor Môn, a chynrychiolwyr o sefydliadau yn cynnwys y Groes Goch ac yr RVS.
Am rhagor o wybodaeth am Fforymau Pobl Hŷn Ynys Môn, cysylltwch ag Alwen Pennant Watkin ar 01286 677711 neu e-bost Alwen@acgm.co.uk
