Heneiddio'n Dda - Partneriaid
Mae’r Canolfannau’n cael eu datblygu er mwyn hyrwyddo lles a chreu cyfleoedd cyfarfod cymdeithasol ar gyfer y rhai dros 50 mlwydd oed sydd yn byw yng nghymunedau Gwynedd ac Ynys Môn. Maent yn darparu gweithgareddau o’ch dewis, ac yn gyfle i eistedd a chael paned a sgwrs, mewn lleoliad cymunedol lleol.
Pa weithgareddau sydd ar gael ar hyn o bryd?
I enwi ychydig – Tai Chi, bowlio dan di, bingo, yoga, crefft, coginio, hanes lleol, hyfforddiant cyfrifiaduron, dyddiau agored a llawer iawn mwy. Datblygir y gweithgareddau o fewn y canolfannau wedi’i deilwra i anghenion y gymuned leol.
Ble mae’r Canolfannau?
- Nefyn, Gwynedd Bala, Gwynedd
- Dolgellau, Gwynedd
- Cricieth, Gwynedd
- Penrhyndeudraeth, Gwynedd
- Blaenau Ffestiniog, Gwynedd
- Brynsiencyn, Ynys Môn
A allaf fod o gymorth?
Diddordeb yn eich ardal leol, neu eisiau datblygu canolfan newydd drwy wirfoddoli? Cysylltwch â 01286 677711
Os hoffech wirfoddoli yn un o’n canolfannau cyfredol, os gwelwch yn dda cysylltwch â’n cydlynydd gwirfoddoli ar 01286 677711 er mwyn trafod pa gyfleoedd sydd ar gael.