Hafan
Mae awyrgylch gyfeillgar i’w gael yng Nghaffi a Chanolfan galw i mewn Hafan. Fe’i lleolir mewn ardal hygyrch ger y prif safle bws yng nghanol dinas Bangor.
Pwy all ddefnyddio’r ganolfan?
Mae awyrgylch gyfeillgar a chroesawgar yn y ganolfan a all gael ei ddefnyddio gan unrhyw un dros 50 mlwydd oed. Mae wedi ei leoli yn agos i’r safle bws gan ei wneud yn ei ardderchog i aros am y bws a lle cewch fwynhau paned wrth aros!
Caffi Hafan
Rydym yn cynnig amrywiaeth o fwyd poeth ac oer am bris rhesymol. Cymerwch olwg ar ein bwydlen.
Nid yn unig y gallwch gael rhywbeth i’w fwyta, gallwch hefyd ddefnyddio’r ganolfan ar gyfer:
- lle i fynd i gael seibiant
- galw i mewn am baned o de neu goffi
- fel lle i gael seibiant o siopa
- I gyfarfod ffrindiau
- Darparu seibiant i ofalwyr
Ardal Technoleg Gwybodaeth Hafan
Mae gan Hafan ardal Technoleg Gwybodaeth ble y gallwch:
- Pori’r rhyngrwyd
- Anfon a derbyn e-byst
- Cynhyrchu llythyrau
- Ymchwilio
- A llawer iawn mwy.
Gallwn drefnu i chi gael hyfforddiant Technoleg Gwybodaeth sylfaenol un i un yn Hafan. Am ragor o wybodaeth gofynnwch i staff y ganolfan os gwelwch yn dda.
Defnydd o Gaffi a Chanolfan galw i mewn Hafan gan grwpiau a chymdeithasau lleol
Os ydych yn aelod o grŵp neu gymdeithas leol sydd yn dymuno defnyddio cyfleusterau Hafan cysylltwch â ni i drafod ymhellach os gwelwch yn dda.
Datblygiad Caffi a Chanolfan galw i mewn, Hafan
Mae’r ganolfan yn parhau i ddatblygu a’n nod yw cynnig mwy o wasanaethau megis bingo, cwis ac yn y blaen.
Byddem yn falch iawn o gael eich barn ar ba wasanaethau yr hoffech weld yn Hafan, cwblhewch ein harolwg byr os gwelwch yn dda fel y gallwch gynnig y gwasanaethau yr ydych eisiau.
Meryl Williams – Rheolwr Caffi
Caffi a Chanolfan galw mewn, Hafan
Ffordd Deiniol
Bangor
Gwynedd
Ar agor Llun i Gwener 10.00yb – 2.00yp
Cysylltwch â ni
Ffôn: 01248 362526