Menter cyswllt cymunedol Cyn-filwyr Age Cymru Gwynedd a Môn
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Age Cymru Gwynedd a Môn wedi sicrhau cyllid gan Gyfamod y Lluoedd Arfog a Sefydliad y Cyn-filwyr i gefnogi Cyn-filwyr lleol a’u teuluoedd / gofalwyr yn ystod y cyfnod heriol rydym wedi’i wynebu. Mae’r gwasanaethau dwyieithog rydym ni fel elusen leol yn eu darparu ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Darparu cyngor a gwybodaeth, a lle bo’n briodol cyfeirio unigolion at sefydliadau arbenigol y Lluoedd Arfog
- Darparu cyfleoedd cymdeithasol a llesiant o’n hadeilad Y Cartref Bontnewydd (LL54 7UW) ac o’n Caffi Hafan Bangor (gallwn hefyd gyfeirio unigolion at y cyfleoedd cymdeithasol a llesiant yng Ngwynedd ac Ynys Môn sy’n cael eu darparu gan bartneriaid yn cynnwys o fewn ardaloedd Caergybi, Pwllheli a Bethesda)
- Rydym hefyd ar hyn o bryd yn cydweithio gyda sefydliadau allweddol y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr yn lleol i sefydlu cyfleoedd cymdeithasol a llesiant ychwanegol gan gynnwys yn ardal De Gwynedd.
Rydym hefyd yn cynnig y gwasanaethau canlynol y telir amdanynt:
- Darparu prydau poeth wedi eu danfon i'r cartref, a hefyd eitemau fel meddyginiaeth a hanfodion bwyd
- Darparu gofal personol, gwasanaeth siopa, gwasanaeth eistedd i gynorthwyo gofalwyr
Os ydych angen rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn a/neu os hoffech wirfoddoli i ni i gynorthwyo gyda darparu’r gwasanaethau gwerth chweil hyn, cysylltwch ag Age Cymru Gwynedd a Môn drwy ffonio 01286 677711 neu e-bostio bethan@acgm.co.uk
Cliciwch ar y linc isod er mwyn derbyn gwybodaeth bellach am y Sesiynau Galw Fewn Cyn Filwyr yng Nghaergybi a Phwllheli
https://www.woodyslodge.org/how-woodys-can-help-you/veteran-drop-in-centres/