Gofal Personol
Rydym yn cynnig gwasanaeth gofal personol proffesiynol a all gael ei addasu ar gyfer eich anghenion unigol. Mae’r gwasanaeth ar gyfer y rhai sydd yn byw’n annibynnol yn y gymuned ond sydd angen cefnogaeth ychwanegol.
Y gwasanaeth
Rydym yn darparu’r canlynol drwy ein gwasanaeth gofal personol, rydym yn hyblyg a gallwn drafod opsiynau cymorth eraill gallwch fod ei hangen:
- Cefnogaeth mewn hylendid personol a cymorth i wisgo
- Cymorth i godi’n y bore ac i fynd i’r gwely yn y nos.
- Paratoi pryd o fwyd a thacluso.
- Cynorthwyo gyda bwyta ac yfed
- Cymorth i fynd i’r toiled
Staff
Ar gyfer tawelwch meddwl ac i gynnal ein safonnau uchel, mae ein staff gofal yn cwblhau proses ddethol ac archwilio drylwyr cyn cyflogaeth, mae hyn yn cynnwys gwiriad DRB gwell.
Os gwelwch yn dda gadewch i ni wybod eich dewis iaith pan fyddwn yn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth sydd yn cael ei addasu i gyrraedd eich anghenion unigol.