Gwirfoddolwr Siop
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig i wirfoddoli a helpu yn y gymuned leol.
Gwirfoddoli mewn Siop Age Cymru Gwynedd a Môn i helpu godi arian hanfodol er mwyn cefnogi'r gwasanaethau sydd eu hangen gan bobl hŷn.
Beth mae gwirfoddolwyr siop yn ei wneud?
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gefnogi'ch Siop Age Cymru Gwynedd a Môn lleol, o fod tu ôl i'r llenni neu ar lawr y siop. Mae'r rolau gwirfoddol yn cynnwys:
- gwasanaethu cwsmeriaid
- rheoli gweinyddu'r siop
- didoli stoc
- creu arddangosfeydd ffenestri
Pam mae gwirfoddolwyr ein siopau mor bwysig
Mae gennym 4 siop wedi ei lleoli Gwynedd a Ynys Môn sydd yn codi arian hanfodol i gefnogi ein gwaith gyda phobl hŷn. Mae ein rhoddwyr yn ailgylchu nwyddau diangen, gan gynnwys dillad, ategolion, teganau a bric-a-brac. Mae'n deg dweud na all ein siopau agor heb yr ymrwymiad rhyfeddol gan ein gwirfoddolwyr!
Beth fyddaf yn ei gael allan ohono?
- Mae Siopau Age Cymru Gwynedd a Môn yn fannau o hwyl - lle mae ffrindiau newydd yn cael eu gwneud drwy'r amser
- Byddwch chi'n dysgu sgiliau newydd ac yn magu hyder
- Byddwch chi'n cefnogi achos gwych yng nghanol eich cymuned
- Mae'n gyfle gwych i fod yn rhan o dîm gwych
- Treuliau cytunedig
Beth sy'n ddisgwyliedig ohonof?
Wrth baratoi ar gyfer dod yn wirfoddolwr, mae'n ofynnol i chi gwblhau'r broses recriwtio sy'n golygu ymgymryd â'r broses cymryd cyfeiriad.
Ar ôl i chi gwblhau'r broses recriwtio, gall yr amser gwirfoddoli a roddwch amrywio o gyn lleied ag awr yr wythnos i gymaint ag y gallwch chi ei sbario. Mae hyn oherwydd y dulliau gwahanol o helpu ni o fewn Siopa Age Cymru Gwynedd a Môn.
Os oes gennych ddiddordeb ac yn gallu sbario ychydig oriau'r wythnos, cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth ar 01286 677711 neu info@acgm.co.uk