Gwirfoddoli
Mae Age Cymru Gwynedd a Môn yn ddibynnol ar wirfoddolwyr i'n cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau allweddol yn ein cymunedau lleol. A hoffech chi ein cynorthwyo?
Rolau gwirfoddoli gydag Age Cymru Gwynedd a Môn
-
Gwirfoddolwr Heneiddio'n Dda
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer ein gwasanaeth prydau yn y cartref, p'un a allwch chi ein helpu un diwrnod yr wythnos neu bob dydd byddai'n gwneud gwahaniaeth mawr.
-
Helpu yn ein siop elusen
Cwrdd â phobl newydd, ein helpu i godi arian a chael hwyl wrth wirfoddoli yn ein siop.
-
Rhoi gwybodaeth
A allech chi ein helpu i ddarparu gwybodaeth hanfodol ac/neu cymorth gweinyddol i bobl hŷn yn Age Cymru Gwynedd a Môn?
Pam gwirfoddoli?
- cyfle i gymdeithasu
- gwneud ffrindiau newydd
- dod i adnabod y gymuned leol
I lawer o bobl eraill, efallai y rheswm yw: Ennill profiad gwaith a sgiliau newydd, gwella CV, gwella opsiynau cyflogaeth, teimlo'n rhan o dîm, eich cynorthwyo i ennill hyder a hunan-barch, gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl eraill, parhau i weithio ar ôl ymddeol, neu yn syml allan o ddiflastod.
Pwy all wirfoddoli?
Gall bron i unrhyw un fod yn wirfoddolwr. Mae gennym ystod eang o rolau sy'n addas i wahanol bobl a sgiliau gwahanol.
Faint o amser gwirfoddoli y mae angen i mi ei roi?
Mae'n dibynnu ar y rôl wirfoddol y mae gennych ddiddordeb ynddo. Mae rhai pobl yn rhoi awr yr wythnos, mae pobl eraill yn gwneud mwy.