Cymorth gyda hygyrchedd
Beth yw PDF?
Mae PDF yn sefyll am 'portable document format’.
Mae'r rhan fwyaf o lawr lwythiadau ar y wefan hon ar ffurf PDF. Rydym yn defnyddio'r ffurf yma i sicrhau fod dogfennau yn edrych yr un fath ar gyfrifiadur pawb (mae tudalennau we yn ymddangos yn wahanol yn ddibynnol ar sut mae cyfrifiaduron pobl wedi eu gosod.
Sut yr wyf yn mewnosod Adobe Acrobat Reader?
Mae cyfrifiaduron yn defnyddio rhaglen o'r enw Acrobat Reader er mwyn lawr lwytho PDF. Os ydych yn clicio ar y cyswllt i lawr lwytho PDF ac nid yw'n gweithio, bydd yn rhaid i chi fewnosod Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur.
Sut yr wyf yn mewnosod Adobe Acrobat Reader?
Mae'r broses yn syml ac yn ddi-dâl.
1. Ewch I. Bydd y cyswllt yma yn agor mewn ffenest newydd http://get.adobe.com/uk/reader/
2. Cliciwch ‘lawr lwythwch’.
3. Arhoswch i’r ffenest gynnig yr opsiwn ‘Rhedeg’ i chi, ac yna dewiswch yr opsiwn yma.
4. Cliciwch ‘Nesaf.
5. Cliciwch ‘Gosod’
6. Arhoswch i’r ffenestr i gynnig y dewis i 'Gorffen', yna dewiswch yr opsiwn hwn
Sut ydw i'n newid lawrlwythiad?
Nid oes modd newid PDFs. Os bydd angen i chi allu teipio i mewn i ddogfen sydd wedi ei lawr lwytho (er enghraifft, os ydym yn cynnig templed llythyr ble mae angen i chi roi eich enw ar) byddwn yn ei ddarparu fel dogfen Microsoft Word yn hytrach na PDF. Yna, gallwch ei lawrlwytho, teipio a’i arbed ar eich cyfrifiadur.
Sut ydw i’n argraffu neu arbed lawrlwythiad?
Bydd lawr lwythiadau yn agor mewn ffenestr bori newydd ar eich cyfrifiadur.
O fewn y ffenestr yma (o dan eich holl ddewisiadau porwr gwe), bydd “bar offer” gydag opsiynau i argraffu neu arbed dogfen.
Caewch y ffenestr bori er mwyn dychwelyd i wefan Age UK.
A all fy narllenydd sgrin ddarllen lawr lwythiadau PDF?
Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod ein dogfennau PDF yn hygyrch i ddarllenwyr sgrin. Dyma drosolwg o’r opsiynau hygyrchedd sydd ar gael mewn Acrobat Reader. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi lawrlwytho y fersiwn diweddaraf o Acrobat Reader o wefan Adobe Reader i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn eich fersiwn chi o'r rhaglen.
Gallwch ddefnyddio Adobe Reader i ddarllen PDF yn uchel gyda'r allweddi llwybr canlynol:
- Darllen y ddogfen: Shift +Ctrl+Y
- Darllen y dudalen sydd ar agor yn unig: Shift +Ctrl+V
- Darllen i ddiwedd y ddogfen: Shift+Ctrl+B
- Toriad: Shift+Ctrl+C
- Stopio: Shift+Ctrl+E
Gallwch hefyd drosi PDF yn dudalen we drwy ddilyn y camau canlynol:
Copïwch yr URL (cyfeiriad gwe) y ddogfen (dde-gliciwch ar y cyswllt a dewiswch 'Save target as' neu 'ddolen Copi').
Agorwch yr offeryn trosi ar-lein Adobe yn eich porwr a gludwch yr URL i mewn i'r blwch URL.
Ticiwch y blwch HTML ar yr opsiwn Fformat a chliciwch 'Trosi'.
Gallwch drawsnewid dogfen PDF i mewn i ffeil testun i'w defnyddio gyda meddalwedd a chaledwedd eraill fel argraffwyr Braille drwy agor y PDF a dewis 'Arbed fel testun' ar y ddewislen Ffeil.