Trefn Cwyno
Nôd Age Cymru Gwynedd a Môn yw cynnig gwasanaethau o safon uchel er mwyn cyfarfod a’ch anghenion. Credwn ein bod yn cyrraedd y safon yma bron bob amser ac os ydych yn cytuno ein bod yn cyrraedd y safon gadewch i ni wybod. Er mwyn cadw safon uchel mae gennym weithdrefnau fel y gallwch adael i ni wybod pam nad ydych yn hapus wrth ddelio gyda ni - a hefyd pan ‘rydym yn llwyddo! Nodwch: Delir gyda bob cŵyn yn gyfrinachol. Mae perthynas dda gyda chi yn bwysig i ni a byddem yn disgwyl i ddatrys unrhyw gwynion cyn gynted â phosib ac yn anffurfiol. Yn y lle cyntaf disgwylir i chwi drafod unrhyw gŵyn gyda’r aelod o staff sydd yn sail i’r gŵyn.
Os nad ydych yn hapus gyda Age Cymru Gwynedd a Môn gadewch i ni wybod
Os ydych yn anhapus gydag unrhyw wasanaeth gan Age Cymru Gwynedd a Môn cysylltwch gyda’r aelod o staff perthnasol, rheolwr neu’r Prif Weithredwr.
Os ydych yn anhapus gydag unigolyn o fewn Age Cymru Gwynedd a Môn, dylech yn y lle cyntaf ddweud wrth y person dan sylw. Os ydych yn teimlo nad yw hyn yn addas, yna siaradwch gyda rheolwr y person neu’r Prif Weithredwr.
Gwneud cwyn ysgrifenedig
Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb, neu os ydych yn dymuno ymdrin a’r mater yn fwy ffurfiol, gallwch ysgrifennu at y Prif Weithredwr. (Os yw’r cŵyn am y Prif Weithredwr gallwch ysgrifennu at y Cadeirydd.) Cedwir cofnod o bob cŵyn.
Y nôd yw ymchwilio i bob cŵyn yn llawn ac i roi ateb i chi o fewn 28 diwrnod gwaith, gan amlinellu sut fyddwn yn delio gyda’r broblem. Os nad yw hyn yn bosib, rhoddir ymateb dros dro i chi gan nodi beth sydd wedi digwydd hyd yma neu beth sydd dan sylw.
Os nad ydych yn fodlon ar ôl i ni adrodd yn ôl ysgrifennwch at y Prif Weithredwr neu’r Cadeirydd. Os na ellir ddwyn y mater i ben, bydd y Cadeirydd / Prif Weithredwr yn adrodd i’r Bwrdd Rheoli nesaf, er mwyn iddynt benderfynu ar y camau nesaf.
Os ydych yn hapus gyda Age Cymru Gwynedd a Môn, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda
Os ydych yn hapus gyda gwasanaeth Age Cymru Gwynedd a Môn, siaradwch gyda’r aelod staff perthnasol, rheolwr neu Prif Weithredwr. Gobeithio y gwnewch ddefnyddio y ddau ddull i’n galluogi i ail edrych a cynllunio ein gwasanaethau.