Sioe Fasiwn
Cyhoeddwyd ar 10 Mehefin 2019 03:34 yh
Noson lwyddiannus iawn yn Age Cymru Gwynedd a Mon neithiwr yn y sioe ffasiwn, yr arian godwyd yn mynd i helpu pobl leol yr ardal I hawlio eu buddiannau ac i gael llais mewn cyfnod o argyfwng yn y maes gofal.
Diolch i Carys So Chic, Bangor am drefnu arddangos y dillad bendigedig, ac i’r modelau am ei gwaith. Diolch hefyd i Sioned a’r genod Body shop am eu gwaith ar y noson ac am godi arian o £105 i ni. Diolch hefyd i’r busnesau lleol a gyfrannodd mor hael at y gwin a’r bwyd ar y noson. Morrisons, Tesco, Lidl, South Caernarfon Creameries, Harlech, a Total Produce ac wrth gwrs i Erin ag Efa am ddisgleirio yn eu ffrogiau.