Mentro Gyda’n Gilydd - Ynys Môn
Cyhoeddwyd ar 27 Tachwedd 2020 12:06 yh
Mae Age Cymru Gwynedd a Môn, ynghyd a phartneriaid lleol Medrwn Môn a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn falch o gyhoeddi adnodd newydd ‘Mentro Gyda’n Gilydd’ i gefnogi trigolion Ynys Môn i ail-gysylltu’n saff gyda’u cymunedau.
Mae cyfres o fideos byr, 1 munud o hyd, wedi i’w creu i helpu i ddangos i drigolion bregus a rhai sy’n byw gyda Dementia ym Môn y prif newidiadau mewn siopa a gwasanaethau ar draws yr ynys ers y pandemig. Gall y rhain cynnwys sustemau unffordd, diheintydd dwylo a rheolau pellhau cymdeithasol ymysg eraill.
Mae cyfres o fideos bellach ar gael i bawb ei wylio ar sianel YouTube Mentro Gyda’n Gilydd Môn: https://www.youtube.com/channel/UCiSihFCA5cNjnsj7Lyy_ssA/?reload=9
Y gobaith yw bod y fideos yn helpu trigolion yr ynys i gael gwell syniad o beth i ddisgwyl pan fyddant yn mynd yn ôl allan i’r gymuned. Mae holiadur hefyd ar gael i roi adborth ar y fideos: https://www.surveymonkey.co.uk/r/8JPQCWL
Hoffai is-grŵp Ynys Môn o’r prosiect cenedlaethol hwn estyn diolch i’r holl siopa a gwasanaethau sydd eisoes wedi cymryd yr amser i gefnogi’r prosiect trwy ddarparu lluniau a gwybodaeth i’r fideos. Y bwriad nawr bydd i ehangu’r adnodd i gefnogi gymaint o drigolion Môn ac sy’n bosib, ac felly mae gwahoddiad agored i unrhyw siop neu wasanaeth arall i gysylltu i fod yn rhan drwy gael fideo wedi’i greu ar eu cyfer hefyd.
I dderbyn copi caled o’r anodau, neu os yn fusnes yn awyddus i greu fideo i’r prosiect - cysylltwch â Sioned Young yn Age Cymru Gwynedd a Môn ar:
Sioned.young@acgm.co.uk / 01286 808 735