Gwobr Gyntaf i brosiect Hybiau Digidol Môn!
Cyhoeddwyd ar 23 Awst 2022 09:15 yb
Yn ddiweddar bu Age Cymru Gwynedd a Môn, mewn partneriaeth a Tai Môn (Cyngor Sir Ynys Môn) a Medrwn Môn yn llwyddiannus mewn ennill gwobr gyntaf yng ngwobrau TPAS Cymru. Rhoddwyd y wobr gyntaf yn y categori 'Rhagoriaeth Mewn Cynhwysiant Digidol' am y prosiect partneriaeth Hybiau Digidol Môn.
Mae Hybiau Digidol Môn yn brosiect bartneriaeth sy'n anelu at ddatblygu sgiliau a hyder digidol pobl hyn o fewn cymunedau yn Ynys Môn. Dros y misoedd diwethaf mae nifer o drigolion hyn Môn wedi ymuno yn y prosiect sy'n caniatáu iddynt fynychu gwersi wythnosol a llogi tabled Samsung Galaxy a data 4G am ddim i'w cefnogi gyda'u dysgu.
Mae'r cyfranogwyr wedi cyflawni llawer o bethau yn ystod eu hamser ar y prosiect gan gynnwys dysgu sut i siopa bwyd ar lein, gwneud cysylltiad â theulu sy'n byw yn bell dros gyfryngau cymdeithasol, ac mae nifer wedi gwneud ffrindiau o fewn y cwrs hefyd.
"Many thanks to all the instructors. We have enjoyed every moment." Adborth gan ddau o'r cyfranogwyr.
Mae prosiect Hybiau Digidol Môn yn parhau i ddatblygu, gyda gwersi newydd i gychwyn yn Llanfairpwll a Biwmares o fis Medi ymlaen.
Llun: Staff Tai Môn yn derbyn y gwobr ar rhan partneriaid prosiect Hybiau Digidol Mon.