Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Galw ar fusnesau a gwasanaethau Ynys Môn.

Cyhoeddwyd ar 24 Chwefror 2021 10:51 yb

Ydych chi'n rhedeg busnes neu wasanaeth ar Ynys Môn? Mae prosiect Mentro Gyda'n Gilydd angen eich help sydyn chi i gefnogi trigolion yr ynys i ddychwelyd yn saff i'w cymunedau yn dilyn y pandemig coronafeirws.

Gwyliwch y fideo sydyn hwn i weld sut gallwch chi helpu:

I gymryd rhan, cysylltwch â Sioned Young ar:

sioned.young@acgm.co.uk  | 01286 808 735

Mae rhywfaint o fideos eisoes wedi'i greu o leoliadau ledled Ynys Môn. I'w gwylio ewch i https://www.youtube.com/channel/UCiSihFCA5cNjnsj7Lyy_ssA/videos  neu cysylltwch â Sioned Young am gopi papur.

Mae Mentro Gyda'n Gilydd yn brosiect cenedlaethol ledled Cymru. Os ydych yn fusnes yng Ngwynedd yn awyddus i gymryd rhan, cysylltwch â Mirain Llwyd Roberts ar MirainLlwydRoberts@gwynedd.llyw.cymru