Eiriolaeth Annibynnol
Cyhoeddwyd ar 01 Mehefin 2018 11:18 yb
Mae Eiriolaeth Annibynnol yn ffordd o helpu pobl i gryfhau eu llais a chael rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. Eiriolaeth Annibynnol yw: Sefyll ochr yn ochr â phobl sydd wedi'u hymyleiddio yn ein cymdeithas. Yn siarad ar ran pobl nad ydynt yn gallu gwneud hynny drostynt eu hunain.
Helpu LLew:
Roedd Llew yn byw ar ei ben ei hun, heb berthnasau agos i’w helpu. Un ffordd neu’r llall roedd Llew wedi mynd i dipyn o bicl. Cyfeiriwyd ef drwy CAB, gan eu bod wedi poeni amdano, nid oedd yn ymdopi gyda bywyd dydd i ddydd, ac roedd Llew yn colli pwysau. Cytunodd imi fynd i'w weld a chanfod nad oedd wedi bod yn edrych ar ôl ei hun. Roedd y tŷ mewn llanast, nid oedd yn bwyta’n iach, roedd ganddo broblemau cof ac roedd ei fywyd yn byrlymu allan o reolaeth. Cytunodd i ni benodi gweithiwr cymdeithasol a thrwy weithio gyda'n gilydd mae Llew bellach yn cael yr help mae ei angen i ail-ennill rheolaeth o'i fywyd - mae wedi datrys llanast ei dŷ, yn bwyta'n iach ac yn cael yr holl asesiadau sydd ei angen arno. Mae'n debygol o ddychwelyd adref o fewn y pythefnos nesaf gyda gofalwyr - dim ond i gadw llygad arno.
Helpu Mary
Roedd gan Mary arwyddion cynnar o ddementia ac wedi bod yn cael asesiadau mewn cartref gofal lleol. Roedd ei theulu ogwmpas ond yn ei chael hi'n anodd i ddeallt a mynd trwy'r nifer helaeth o waith papur ac asesiadau a gweithdrefnau. Roedd mab Mary wedi bod ceisio mynd trwy'r gwybodaeth gam wrth gam gyda'n Eiriolwraig Annibynnol. Erbyn hyn, drwy wybodaeth a dealltwriaeth am y drefn mae'n gallu mynychu cyfarfodydd gyda assesswyr ar ei ben ei hun i gefnogi ei fam. Mae'n golygu ei fod yn deall y weithdrefn ac yn gallu siarad ar ei rhan. Gelwir hyn yn hunan-eiriolaeth.
Helpu James:
Cafodd James ei ryddhau o'r ysbyty i mewn i gartref gofal - ond nid oedd y cartref gofal yn addas ar gyfer ei anghenion, nid oedd ganddo weithiwr cymdeithasol i edrych ar ôl. Roedd hefyd yn hunan-ariannu sy'n golygu ei fod yn talu am ei holl ofal. Rhoddodd ein Eiriolwraig Annibynnol gwyn i'r ysbyty a gofynnodd am ailasesiad. Gofynnodd hefyd am asesiad ariannol ac asesiad nyrsio. Bellach mae gan James gyfraniadau gan iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i dalu am ei ofal.
Prif themâu eiriolaeth yw:
Diogelu pobl sy'n agored i niwed ac a wahaniaethir yn eu herbyn
Grymuso pobl sydd angen llais cryfach trwy eu galluogi i fynegi eu hanghenion eu hunain a gwneud eu penderfyniadau eu hunain.
Galluogi pobl i gael mynediad i wybodaeth, archwilio a deall eu dewisiadau, a gwneud eu dewisiadau a'u dymuniadau yn hysbys.
Yn siarad ar ran pobl nad ydynt yn gallu gwneud hynny drostynt eu hunain
Mae eiriolaeth annibynnol yn strwythurol, yn ariannol ac yn seicolegol arwahān i ddarparwyr gwasanaethau a gwasanaethau eraill. Mae annibyniaeth o'r fath yn helpu i sicrhau nad oes posibilrwydd y bydd unrhyw wrthdaro buddiannau yn codi mewn perthynas ag unrhyw wasanaethau eraill y mae'r unigolyn neu'r grŵp yn eu gweld.