Darganfod mwy am hubiau cymunedol Ynys Mon
Cyhoeddwyd ar 11 Ionawr 2022 11:32 yb
Gwrandewch ar bennod ddiweddaraf o bodlediad Menter Iaith Môn i glywed Sioned Young, ein Swyddog Cyswllt a Chefnogaeth i Hybiau Cymunedol Ynys Môn yn sgwrsio am y gwaith mae hi'n gwneud ledled Môn i Age Cymru Gwynedd a Môn.
Mae hwn yn rhan o gyfres o bodlediadau o Sgyrsiau Diddorol gyda Phobl Ddiddorol sy'n cefnogi'r iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Bu testunau’r sgwrs hon yn cynnwys gwefan newydd Cymuned, Hybiau Cymunedol, Rôl y Gymraeg yn rhan o'i gwaith, a chyngor i'r rheiny sy'n teimlo'n unig trwy amseroedd hyn.
