Cofiwch ddod draw i’n gweld yma yn Y Cartref, Bontnewydd.
Cyhoeddwyd ar 29 Ebrill 2019 03:15 yh
Digon yn mynd ymlaen a bwyd cartref wedi ei goginio’n ffres.
Beth am ddod draw i’r noson ffasiwn ar Fehefin 6ed 7:00yh tan 9:00yh neu arddangosfa o’n gwaith celf safonol ar Mai 21ain 4:00yh tan 6:00yh.
Mae’r gwaith celf i gyd wedi ei wneud gan bobl leol i ddathlu creadigaeth ym mhobl hŷn, maent yn gweithio ar brosiectau sydd yn ymwneud â Under Milk Wood – Dylan Thomas a symudiad y syffrajets wrth gynnwys llyfr Angharad Thomas Henriet y Syffrajet. Prynwch eich tocyn am £5 o’r Cartref yn cynnwys bwffe.
So Chic o Fangor fydd yn cynnal y Sioe Ffasiwn ac yn cynnwys cael eich pampro gan Sioned o’r Body Shop. Prynwch eich tocyn o’r Cartref, £10 yn cynnwys gwydraid o win a chaws.
Pam ddim dod draw i gael eich diddori yn ein sesiynau sgyrsiau difyr - Len Porter, Gari Wynn, Iolo Thomas a Marcus Robinson yw rhai o’r enwau rydym wedi bod yn lwcus o gael gyda ni. Dydd Llun cyntaf o bob mis 11:00yb-12:00yb am gost o £3, cynnwys paned a chacen.
Cofiwch am ein diwrnod cupcêc ar Fehefin 13eg, 10:00yb-12:00yp. Diwrnod codi arian at Ddementia a Age Cymru Gwynedd a Môn. Mi fydd hi hefyd yn ddathliad o ofalwyr i gyd fynd ac wythnos gofalwyr, gyda stondin gwybodaeth gan Ofalwyr Cymru.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Nicolas ar 01286 808732.