Canolfan Gymunedol Gwelfor
Cyhoeddwyd ar 26 Mai 2022 01:46 yh
Dyma griw Canolfan Gymunedol Gwelfor, Caergybi yn mwynhau eu gwersi IT gyntaf fel rhan o gynllun Hybiau Rhithiol Môn. Mae hwn yn brosiect sy'n cael ei gydlynu gan Age Cymru Gwynedd a Môn mewn cydweithrediad a Cyngor Sir Ynys Môn, Medrwn Môn a Coleg Menai, sy'n anelu at ddatblygu sgiliau a hyder digidol o fewn cymunedau yn Ynys Môn.
Dros y misoedd nesaf mi fydd y prosiect yn ymestyn i gydweithio a rhagor o Hybiau Cymunedol ar Ynys Mon, felly gwyliwch y gofod hwn!

