Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd ar 04 Awst 2021 11:26 yb
Ydych chi’n defnyddio neu ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth yng Ngogledd Cymru? Fe hoffem ni gael gwybod eich barn chi am y gofal a’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd, a sut y gellid ei wella.
Os byddai’n well gennych chi ateb y cwestiynau dros y ffôn, cysylltwch ag Eluned Yaxley ar 01824 712041. Os hoffech chi gysylltu â ni’n defnyddio dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain, gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio Gwasanaeth InterpretersLive!, a ddarperir gan Sign Solutions. Darperir fersiynau drwy EasyRead; ac fersiynau plant a phobl ifanc a gellir ei argraffu hefyd er hwylustod i chi.
Fyddech chi cystal â llenwi’r arolwg erbyn 17 Medi 2021.
Llenwch yr arolwg ar-lein yma: