Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Arddangosfa Gwyl Gwanwyn

Cyhoeddwyd ar 10 Mehefin 2019 03:46 yh

Ddydd Mawrth 21ain o Fai 2019, bu i Age Cymru Gwynedd a Môn gynnal noson Gwyl Gwanwyn er mwyn arddangos a dathlu gwaith celf a chrefft gwych y criw Clwb Celf a Chrefft sydd yn cwrdd yn wythnosol yn Y Cartref Bontnewydd

Daeth dros 60 o bobl drwy’r drysau er mwyn cael y cyfle i edmygu'r arddangosfa oedd wedi ei selio ar gymeriadau ‘Under Milk Wood’ gan Dylan Thomas, a hefyd ar ymgyrch y Syffrajets. 

Diolch i bawb am ein cefnogi a diolch mawr i’r artistiaid a’r tiwtoriaid am eu gwaith caled.  Diolch hefyd i Dafydd Iwan am agor y noson yn swyddogol a diolch hefyd i Angharad Tomos, awdures ‘Henriet y Syffrajet’ am alw draw. Darparwyd lluniaeth o Gaffi’r Cartref fel rhan o’r pris mynediad ac roedd pawb wedi eu plesio yn arw!