Apêl Bocs Rhoddion
Cyhoeddwyd ar 16 Tachwedd 2021 07:40 yh
Rydym wrth ein bodd bod ein Apêl Bocs Rhoddion yn ôl yn 2021
Rydym ni'n gofyn i chi lenwi bocs esgidiau, wedi'i lapio, gydag anrhegion , i helpu wneud y Nadolig hwn ychydig yn fwy disglair.
Gall y Nadolig fod yn amser unig i lawer o bobl hŷn nad oes ganddynt deulu agos i ymweld â nhw dros yr ŵyl, ein gobaith yw cael anrheg i agor a allai wneud gwahaniaeth iddynt. Bydd eich bocs rhoddion yn cael eu danfon i'n cleientiaid sy'n byw yng Ngwynedd neu Ynys Môn ac yn derbyn gwasanaethau gennym ni.
Sut y gallwch chi helpu
- Cael gafael ar bocs esgidiau - Lapiwch y bocs a'r caead ar wahân mewn papur Nadolig, neu gallwch ddefnyddio papur Nadoligaidd wedi'i argraffu ymlaen llaw
- Llenwch ag anrhegion - gweler ein hawgrymiadau isod (nid yw'r rhestr yn gynhwysfawr)
- Atodwch label yn nodi a yw'ch rhodd ar gyfer gwryw, benyw neu generig
- Peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch chi'ch hun.
- Mae gennym awgrymiadau ar yr hyn y gallwch ei gynnwys yn eich blwch esgidiau ar wefan Age Cymru - http://bit.ly/GiftBoxAppeal
Mae ein pwyntiau gollwng fel a ganlyn: -
Age Cymru Gwynedd a Mon, Y Cartref, Bontnewydd, Caernarfon, Gwynedd LL54 7UW
(Dydd Llun - Dydd Gwener 10yb -3yp)
Caffi Hafan, Deiniol Road, Bangor, Gwynedd (wrth yr arhosfan bysiau)
(Dydd Llun i Ddydd Gwener 10.00yb – 2.30yp)
Siop Llangefni, 24 Stryd Fawr, Llangefni, Ynys Môn LL77 7NA
(Dydd Llun i Ddydd Gwener 10yb i 3yp)
Siop Porthmadog, 77 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9EU
(Dydd Llun i Ddydd Sadwrn 9yb i 3yp)
Helpwch ni i wneud y Nadolig hwn ychydig yn fwy arbennig a chefnogwch ein Apêl Bocs Rhoddion