Age Cymru Gwynedd a Môn yn sicrhau cyllid er mwyn parhau i gefnogi’r gymuned leol yn ystod cyfnod Covid-19
Cyhoeddwyd ar 08 Rhagfyr 2020 12:41 yh
Rydym yma yn Age Cymru Gwynedd a Môn wedi derbyn newyddion da yn ddiweddar ein bod yn llwyddiannus o ran denu arian o Gronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol Llywodraeth Cymru (a weinyddir gan WCVA), a hefyd o’r Gronfa Gymunedol Pawb a’i Le (Loteri) er mwyn darparu prosiect cefnogi’r henoed a'r bregus yn y gymuned wrth iddynt gysgodi o Covid-19 a hefyd i'r dyfodol pa Text n fydd cyfyngiadau yn cael eu llacio. Bydd hyn yn cyfrannu at les y gymuned mewn cyfnod lle fydd lefelau unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn uwch oherwydd Covid-19.
Meddai Eleri Lloyd Jones, Prif Swyddog Age Cymru Gwynedd a Môn :
“Bydd y cymorth ariannol yma yn ein galluogi i barhau i fod yn rhagweithiol yn ein cymunedau gan ddarparu gwasanaethau hanfodol mewn cyfnod lle bo lefelau unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn uwch oherwydd Covid-19. Byddwn yn darparu a chludo prydau poeth a hanfodion i gartrefi pobl, wrth gadw mewn cyswllt ac ymgymryd â galwadau ffôn rheolaidd yn ogystal â darparu cyngor a gwybodaeth lle bo angen. Rydym yn hynod falch o dderbyn yr arian yma mewn cyfnod ansicr iawn yn ariannol i elusennau lleol.”
Mae darpariaeth Pryd ar Glud ar gael o'r Cartref Bontnewydd yn ddyddiol o Lun i Wener gydag oddeutu 200 pryd yn mynd allan yn wythnosol. Yn ogystal mae Pryd ar Glud ar gael yn ardal Penygroes drwy’r staff Clwb Cinio a hynny ar ddyddiau Mercher a Gwener.
Yn ystod cyfnod Covid-19 rydym wedi bod yn hynod ffodus o ran ymroddiad a gwaith caled y nifer o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn ein cynorthwyo gyda'r gwaith sicrhau fod pobl yn ddiogel yn eu cartrefi ac yn y gymuned. Mae un gwirfoddolwr yn arbennig wedi mynd ati a chreu dros 1,000 o fasgiau wyneb i ni allu dosbarthu yn y gymuned ac rydym yn hynod ddiolchgar o hynny.
Os ydych mewn angen unrhyw un o’r gwasanaethau rydym yn gynnig NEU os oes ydych â diddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni a chynorthwyo'r gymuned leol yn y cyfnod heriol yma, yna hoffwn glywed gennych chi! Gallwch gysylltu gyda ni ar 01286 685 921 neu aled@acgm.co.uk