Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

𝐑𝐡𝐨𝐝𝐝𝐢𝐨𝐧 𝐇𝐚𝐦𝐩𝐞𝐫𝐢 Bwyd

Cyhoeddwyd ar 15 Rhagfyr 2021 12:26 yh

Helpwch ni i wneud y Nadolig hwn ychydig mwy arbennig yw ein neges ni yma yn Age Cymru Gwynedd a Môn eleni. Dyma yn union beth mae Erin ac Efa wedi’u wneud. Dros y blynyddoedd mae’r ddwy wedi bod yn casglu bwyd yn archfarchnad Morrisons Caernarfon er mwyn ein galluogi i greu hamperi ar gyfer pobol hŷn ein hardaloedd ar led Gwynedd a Môn. Tydi eleni ddim gwahanol a hoffem ddiolch o galon Erin ac Efa am eu ymroddiad i’r gwaith hyn o flwyddyn i flwyddyn a hefyd i bawb a gyfrannodd at y prosiect.

Ar Ddydd Sadwrn y 4ydd o Ragfyr cafodd bron i 20 crȃt o fwyd eu casglu; yn cynnwys cawl, bisgedi, tuniau llysiau, te a choffi. Mae eich holl garedigrwydd wedi’u galluogi i greu dros 40 o hamperi bwyd ar gyfer pobl hŷn y ddwy sir.

Felly unwaith eto rydym yn gofyn am eich help. Os rydych yn adnabod unrhyw unigolyn a bydd yn gwerthfawrogi derbyn hamper bwyd dros dymor yr ŵyl yna plîs cysylltwch â Ceri Hughes ar 01286 685 920 neu drwy e-bostio info@acgm.co.uk