Gweithiwr Cartref
SWYDD: Gweithiwr Cartref /Cymunedol (Ardal Felinheli)
ATEBOL I: Rheolwr Gofal Cartref/Cymunedol
ARDAL: Felinheli (Rhaid bod yn barod i weithio gyda’r nos, penwythnosau a gwyl y banc)
GWYBODAETH CYFFREDINOL
Mae Age Cymru Gwynedd a Môn yn ymrwymedig i ddarparu gofal cymdeithasol a gwasanaethau cefnogol o ansawdd ac o’r safon uchaf hybu annibyniaeth, urddas a lles yr unigolyn i wella eu hansawdd bywyd a’u galluogi i aros yn eu cartref eu hunain. Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar draws Gwynedd a Môn.
AMLINELLIAD
I gael cyfrifoldeb yn unol ag ymarfer a dull gweithredu Age Cymru Gwynedd a Môn ar gyfer anghenion personol a domestig unigolion fel y nodir ar y cynllun gwasanaeth. Nôd y gwasanaeth yw sicrhau parhad annibyniaeth yr unigolyn yn y gymuned gan ddarparu cymorth a chefnogaeth addas i’r unigolyn a’r gofalwyr anffurfiol. Bydd asesiad cychwynnol o anghenion yr unigolyn yn cael ei ymgymryd gan y Rheolwr Gofal Cartref/Cymunedol neu’r Goruchwyliwr a bydd Cynllun Gwasanaeth yn cael ei gwblhau. Bydd y Cynllun yn amlinellu’r anghenion gofal, gan gymryd i ystyriaeth argaeledd y gofalwr mewn perthynas â oriau gwaith. Mi fydd hyn fel arfer yn cael ei gytuno rhwng y Rheolwr Gofal Cartref/Cymunedol neu’r goruchwyliwr a’r gofalwr.
PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
- Gwasanaeth domestig cyffredinol er enghraifft, glanhau, golchi dillad, gwneud a newid gwlâu, gwneud tân, cynorthwyo â darpariaeth prydau ac unrhyw dasg a fyddai yn cael ei wneud fel rheol i gadw cynhaliaeth gyffredinol y cartref.
- Cynorthwyo gyda siopa, casglu pensiwn, presgripsiwn ac adloniant.
- Tasgau gofal personol cyffredinol a all gynnwys cynorthwyo unigolyn i mewn ac allan o’r gwely, cynorthwyo gyda gwisgo/dadwisgo, ymolchi, neu fwydo.
- Tasgau cymdeithasol yn cynnwys ffurfio perthynas gyda’r unigolyn drwy siarad a gwrando â’r unigolyn a’r gofalwr a chynorthwyo'r unigolyn i gysylltu gyda theulu, ffrindiau a’r gymuned
- I fod yn brydlon ac ar amser gan sicrhau dibynadwyedd a bod yr ymweliadau cartref am yr amser sydd wedi ei chlustnodi. Cael llofnod yr unigolyn ar yr amserlen ar ddiwedd pob ymweliad yn dangos yr amser manwl cywir o’r cyrhaeddiad a’r ymadawiad.
- Adrodd yn ôl unrhyw bryderon/newidiadau ynglŷn â’r unigolyn i’r Rheolwr.
- Cymryd rhan a mynychu cyfarfodydd staff, goruchwyliaeth, gwerthusiad a hyfforddiant fel yr ofynnir gan y Rheolwr
- Cadw cofnod manwl cywir, cryno a chyfoes o ofal yr unigolyn wrth gofnodi yn y llyfr log a ddarperir.
- Sicrhau bod yr amserlenni wedi eu hanfon i’r Rheolwr o fewn yr amser a gytunwyd ar gyfer eu prosesu
- Cynnal a pharchu cyfrinachedd pob amser
- Hysbysu'r Rheolwr ar unwaith os nad oes modd darparu’r gwasanaeth
- Fe ellir fod yn ofynnol i’r gofalwr i ymgymryd â dyletswyddau eraill sydd yn gymesur â’r swydd ac nad yw wedi’i grybwyll yn y swydd ddisgrifiad o bryd i’w gilydd.
MANYLEB PERSON
- Addysg a Hyfforddiant
Y gofynion addysgol/hyfforddiant isafswm ar gyfer y swydd:
1.1 Hanfodol
1.2 Dymunol:
- QCF Lefel 2 neu brofiad perthnasol
- Cofrestru gyda Gofal Cymeithasol Cymru
- Cymorth Cyntaf
- Hylendid Bwyd
- Amddiffyniad
Hyfforddiant penodol a fydd ei angen yn dilyn penodiad :
1.3 Hanfodol
- QCF Lefel 2 neu brofiad perthnasol ac i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (ar ol cwblhau cyfnod prawf)
- Anwythiad
- Unrhyw hyfforddiant gorfodol sydd ei angen ar gyfer cyflawni’r swydd
- Sgiliau penodol, gwerthoedd a nodweddion sydd yn allweddol i berfformiad effeithiol
2.1 Hanfodol
- Y gallu i weithio fel aelod o dîm
- Deall y pwysigrwydd o gynnal cyfrinachedd pob amser
- Y gallu i sylwi ac ymateb i amgylchiadau newidiol yr unigolyn
- Y gallu i ymdrin ag unrhyw fater sydd yn cael ei godi gan yr unigolyn yn sensitif
- Bod yn llawn cydymdeimlad tuag at anghenion yr unigolyn
- Y gallu i ddefnyddio menter ei hun a gweithio heb oruchwyliaeth
- Y gallu i ymateb yn dawel o fewn sefyllfa argyfwng.
- Amgylchiadau personol a allai, os nad yn cwrdd, orfodi perfformiad effeithiol yn y swydd
3.1 Hanfodol
3.2 Mae rhaid bod yn berchen ar drwydded yrru llawn gydag yswiriant busnes priodol a defnydd o gar. Telir costau teithio.
3.3 Gwiriad heddlu cynhwysfawr boddhaol.