Gweithio i ni
Gweithiwr Cartref /Cymunedol (Ardal Felinheli)
Mae Age Cymru Gwynedd a Môn yn ymrwymedig i ddarparu gofal cymdeithasol a gwasanaethau cefnogol o ansawdd ac o’r safon uchaf hybu annibyniaeth, urddas a lles yr unigolyn i wella eu hansawdd bywyd a’u galluogi i aros yn eu cartref eu hunain. Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar draws Gwynedd a Môn.
Swydd Gofal Cartref
Rydym yn recriwtio GWEITHWYR GOFAL CYMUNEDOL er mwyn darparu gwasanaethau a chymorth i gefnogi pobl yn y gymuned