Am Age Cymru Gwynedd a Môn
Rydym yn elusen leol sy'n gweithio yn y gymuned i gefnogi pobl hŷn, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Rydym eisiau i bawb allu fwynhau bywyd yng nghyfnod hydrefol ein siwrne bywyd.
Ein gweledigaeth
- Hyrwyddo lles pobl hŷn sydd yn byw yng Ngwynedd ac Ynys Môn
- Creu amodau sydd yn galluogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth
- Gwella ansawdd bywyd pobl hŷn a’u gofalwyr
- Annog datblygiad gwasanaethau yn enwedig ar gyfer pobl hŷn
- Hyrwyddo gwasanaethau gan gydlynu a chyfuno adnoddau yn effeithiol
- Hyrwyddo gweledigaeth bositif ynghylch pobl hŷn a heneiddio
- Annog agweddau positif i henaint ac ymladd rhagfarn oed
Beth rydym yn gwneud
-
Rydyn ni'n rhoi cyngor
Mae ein hymgynghorwyr hyfforddedig yn cynnig cyngor a gwybodaeth yn rhad ac am ddim i bobl hŷn a'u teuluoedd.
-
Rydym yn cynnig help yn y cartref
Rydym yn cynnig gwasanaethau cymorth cartref i gynorthwyo gyda siopa a glanhau. -
Rydym yn darparu gweithgareddau
Mae gan ein canolfannau dydd ystod eang o weithgareddau grwp a digwyddiadau, megis clybiau cinio a dosbarthiadau ymarfer corff, gan roi cyfle i bobl hyn gadw'n heini, cymdeithasu, neu ddysgu sgil newydd. .
-
Ein gwasanaethau
A llawer mwy ... Gweler ein tudalen gwasanaethau llawn yma am ragor o wybodaeth
Cwrdd â'n pobl
-
Cyfarfod â'n Staff ac Ymddiriedolwyr
Mae gennym dîm o dros 80 o aelodau staff penodedig, sydd yn ein cynorthwyo i ddarparu cyngor a gwybodaeth, ymweliadau cartref, gwasanaetha siopa a darparu bwyd blasus yn ein clwb cinio a llawer mwy. Dysgwch fwy am rai o'n staff ac ymddiriedolwyr yma.
-
Dysgwch am ein gwirfoddolwyr
Ni allai ein gwasanaethau redeg heb gymorth ein tîm o wirfoddolwyr anhygoel. Mae gennym dros 150 o wirfoddolwyr yn ein helpu trwy gydol yr wythnos. Dysgwch fwy am ein gwirfoddolwyr a sut y gallwch chi ddod yn wirfoddolwr hefyd.
Gweithio i ni
Gweler Swyddi Gwag Age Cymru Gwynedd a Môn