Polisi Preifatrwydd
Mae deddfwriaeth yn newid ac o’r 25 Mai 2018, bydd Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GCPR) yn dod i rym. Mae hyn yn newid y ffordd y mae Age Cymru Dyfed (ACD) yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth ac yn cyfathrebu â chi. Gan hynny, mae angen i ACD rannau’r Polisi Preifatrwydd hwn i’w gwneud yn haws i chi ddeall pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu.
Rydym hefyd wedi cymryd camau i wella'r rheolaethau mewnol eraill yr ydym yn eu darparu i ddiogelu’ch data ac amddiffyn eich preifatrwydd.
1. Pa wybodaeth y byddwn yn ei defnyddio?
Trwy ddod at ACD a gofyn am gymorth a help i gynnal eich annibyniaeth, fel arfer mae angen i ni ofyn am fanylion personol gennych chi am y ffordd y gallem deilwra ein cyngor i’ch amgylchiadau.
2. Sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?
Gallai ACD neu sefydliadau eraill yr ydym yn gweithio â hwy neu’n partneru â hwy o bryd i’w gilydd (fel y disgrifir yn fanylach yn yr adran “Gyda phwy y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth?” isod), ddefnyddio’ch gwybodaeth i:
- Weithredu Gwybodaeth a Chyngor ACD a gwasanaethau eraill ac i adrodd ar ddata dienw wrth gyllidwyr.
- Dadansoddi sut y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio, boddhad y cleient a’n sianeli marchnata megis ein gwefan.
- Asesu effeithiolrwydd ein gweithgareddau marchnata.
- Deall ein cleientiaid yn well er mwyn i ni allu parhau i fodloni eu hanghenion.
3. Rydym yn casglu ac yn defnyddio’ch gwybodaeth yn y sefyllfaoedd a ganlyn:
- Lle mae ein defnydd o’ch gwybodaeth yn angenrheidiol er mwyn i ni ddarparu’r cymorth yr ydych chi wedi’i geisio gennym ni.
- Os credwn ni ei bod hi’n angenrheidiol defnyddio’ch gwybodaeth i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau cyfreithiol yr ydym yn amodol arnynt; ac
- Os oes gennym eich caniatâd, byddwn yn dibynnu ar eich caniatâd i:
i. Gasglu gwybodaeth dechnegol megis data;
ii. Ddefnyddio’ch gwybodaeth ar gyfer codi arian a marchnata i chi ar y ffôn, trwy lythyr, e-bost, a dulliau eraill ar gyfathrebu electronig o bryd i’w gilydd yn unol â’ch dewisiadau data.
Os ydym yn dibynnu ar ganiatâd i ddefnyddio’ch gwybodaeth, mae gennych yr hawl i dynnu’r caniatâd hwnnw yn ôl unrhyw bryd. Gweler yr adran “Eich dewisiadau a hawliau” y polisi hwn am ragor o fanylion.
4. Y cyfnod y byddwn yn cadw’ch data.
Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth am mor hir ag sy’n angenrheidiol i ni fodloni’r diben a ddisgrifiwn yn y polisi hwn. Fel rheol, serch hynny, byddwn yn cadw:
- Y wybodaeth y byddwch chi’n ei darparu pan fyddwch chi’n cysylltu ag ACD yn gyntaf, neu ar ôl hynny, ynghyd ag unrhyw ddiweddariadau y byddwch chi’n eu gwneud i’r wybodaeth honno, ar gyfer hyd y gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor ACD a gwasanaethau eraill ACD;
- Y wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch chi a’ch rhyngweithiad gyda’r gwasanaethau ar gyfer hyd eich rhyngweithiad gyda’r gwasanaethau, neu mewn rhai achosion am lai o amser, ar sail y rheswm dros gadw gwybodaeth o’r fath a pha un a yw gwybodaeth o’r fath yn parhau’n gyfredol.
Os na fyddwch chi’n cysylltu neu’n rhyngweithio gyda ACD am gyfnod o 36 mis, efallai y bydd ACD yn eich ystyried chi’n anweithredol. Yna bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw a’i storio’n ddiogel yn ddienw am gyfnod pellach o 24 mis ac ar ôl hynny byddwch yn cael eich ystyried yn anweithredol, ac ar ôl hynny byddwn yn ymdrechu i sicrhau nad yw’ch data personol yn cael ei gadw mwyach.
5. Gyda phwy fyddwn ni’n rhannu’ch gwybodaeth?
Mae’n bosibl y byddwn ni’n rhannu’ch gwybodaeth o fewn partneriaethau Age Cymru neu Age UK a gyda sefydliadau statudol a thrydydd sector priodol sy’n cefnogi Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor ACD a’r cynnyrch a’r gwasanaethau eraill y maen nhw’n eu darparu. Mae’n bosibl y byddwn ni hefyd yn rhannu’ch gwybodaeth gyda:
- Sefydliadau a darparwyr gwasanaeth eraill yr ydym yn gweithio â hwy neu’n partneru â hwy o bryd i’w gilydd.
- Ein cynghorwyr proffesiynol.
- Unrhyw awdurdod gorfodi’r gyfraith, llys, rheolydd, awdurdod Llywodraeth neu drydydd parti arall os credwn fod hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio gyda rhwymedigaethau rheoleiddio neu fel arall i ddiogelu ein hawliau neu hawliau unrhyw drydydd parti; ac
- Unrhyw drydydd parti y byddwn yn trosglwyddo ein holl asedau neu ein holl asedau a busnes sylweddol. Pe bai trosglwyddiad o’r fath yn digwydd, byddwn yn defnyddio ymdrechion rhesymol i geisio sicrhau bod yr endid y byddwn yn trosglwyddo’ch gwybodaeth iddo yn ei ddefnyddio mewn modd sy’n gyson â’r polisi hwn.
Rydym yn addo na fyddwn ni byth yn rhannu’ch manylion gydag unrhyw un arall.
6. Trosglwyddo’ch gwybodaeth yn rhyngwladol.
O dan amgylchiadau arferol ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo yn rhyngwladol. Serch hynny, pe bai ni’n gwneud hynny at ddibenion gweithredol, yn penderfynu defnyddio canolfannau cyswllt tramor, neu’n gosod ein gwasanaethau TG ar gytundeb allanol dylai’r gwledydd y byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth iddynt fod yn rhan o’r Fframwaith Amddiffyn Preifatrwydd.
Byddwn hefyd yn sefydlu camau diogelu priodol i amddiffyn eich gwybodaeth, neu fel arall yn sicrhau y gallwn drosglwyddo’ch gwybodaeth mewn ffordd sy’n cydymffurfio â chyfraith diogelu data. O dan rai amgylchiadau mae’n bosib y byddwn yn gofyn am eich caniatâd penodol i drosglwyddo’ch gwybodaeth.
Lle’r ydym wedi sefydlu camau diogelu priodol i amddiffyn gwybodaeth y byddwn yn ei throsglwyddo, gallai’r camau gynnwys cytundebau cyfreithiol ychwanegol i ddiogelu’ch gwybodaeth.
7. Eich dewisiadau a’ch hawliau
Mae gennych nifer o hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth a gallwch wneud nifer o ddewisiadau am sut yr ydym yn ei chasglu a’i defnyddio. Er enghraifft, gallwch benderfynu ddewis peidio â derbyn deunydd codi arian a marchnata gennym ni ac i wrthwynebu i rai o’r ffyrdd y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth.
Sylwer y gallai rhai o’r dewisiadau neu’r newidiadau y byddwch chi’n eu gwneud effeithio ar ein gallu i gynnal ein cymorth neu gynnig cyngor wedi’i deilwra i chi ac efallai y bydd angen dileu’ch cofnod cleient. Byddwn yn eich hysbysu chi pe bai unrhyw gamau o’r fath yn angenrheidiol.
Gallwch gysylltu â ni trwy ddefnyddio’r manylion isod i:
- Geisio mynediad rhwydd i’ch gwybodaeth – a fydd yn cael ei darparu o fewn un mis yn amodol ar wirio’ch hunaniaeth.
- Gofyn i ni ddiweddaru, cwblhau neu gywiro’ch gwybodaeth.
- Gofyn i ni ddileu neu gyfyngu ein defnydd ar eich gwybodaeth?
- Gofyn i ni roi’ch gwybodaeth i chi mewn fformat electronig a ddefnyddir yn gyffredin ac i gael y wybodaeth honno wedi’i throsglwyddo’n uniongyrchol i sefydliad arall (gelwir hyn yn hawl i ‘gludadwyedd data’); a/neu
- Gwrthwynebu i ni, neu sefydliad arall sy’n cefnogi’r gwasanaeth, ddefnyddio eich gwybodaeth o dan rai amgylchiadau.
8. Diogelwch Gwybodaeth
Gweithia ACD yn galed i gadw’ch data yn ddiogel. Defnyddiwn gyfuniad priodol o fesurau technegol a sefydliadol i sicrhau, hyd y gellir yn rhesymol, cyfrinachedd, hygrededd ac argaeledd eich gwybodaeth bob amser. Os oes gennych chi bryder yn ymwneud â diogelwch, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddangosir isod.
9. Cwynion
Gweithiwn yn galed i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn ddiogel ac yn saff. Os oes gennych bryder am sut y mae’ch gwybodaeth yn cael ei defnyddio, cysylltwch â ni yn:
Swyddog Diogelu Data
Age Cymru Dyfed
27 Heol y Wig
Aberystwyth
Dyfed
SY23 2LN
Fel arall, mae gennych yr hawl i gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
10. Newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd
Byddwn yn adolygu ein Polisi Preifatrwydd yn rheolaidd a byddwn yn gosod unrhyw ddiweddariadau ar ein gwefan ac mewn unrhyw gyfathrebu polisi perthnasol.
11. Pwy ydym ni
Rydym ni Age Cymru Dyfed yn elusen gofrestredig (Rhif 1155813). Mae ein swyddfa gofrestredig fel y dangosir yn adran 7 uchod. Cysylltwch â ni trwy gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data yn ysgrifenedig ar y cyfeiriad uchod i godi unrhyw gwestiynau neu bryderon.
Diogelwn eich gwybodaeth; mae ein helusen yn dibynnu arni.
Fersiwn 1.0
Yn effeithiol 25 Mai 2018