Gweithgareddau a digwyddiadau
![](/bp-assets/globalassets/dyfed/images/get-involved/group-activities3.jpg)
Ein gweledigaeth yw byd lle gall pawb garu bywyd yn hwyrach.
Cymdeithasol newydd! Seeds Versus Weeds Grŵp cymdeithasol Garddwyr Cymdeithasol
Ymunwch â ni yng Nghanolfan Arddio Llanarth SA47 0NR Dydd Llun 1pm am 8 wythnos yn dechrau 24ain Mehefin Ar ôl mynd am dro hamddenol o amgylch y ganolfan arddio, ymunwch â ni am luniaeth ysgafn gerllaw. Cyfnewid planhigion, hadau a syniadau dros baned arnom ni.
Cofrestrwch: 👇
https://forms.office.com/e/EupM28wzS6
Grŵp cymdeithasol newydd - Shoppers Social, dydd Mawrth am 1pm yn dechrau 25 Mehefin.
Ymunwch â’n ‘Shoppers Social’ yn Morrisons Aberystwyth SY23 3TL.
Dydd Mawrth am 1pm am 8 wythnos!
Dewch i gwrdd â grŵp o bobl gyfeillgar am baned a chwmni am ddim yn y caffi cyn gwneud eich siopa.
Dyddiad cychwyn 25 Mehefin.
Mae angen cofrestru:
👇
https://forms.office.com/e/25aKf8VBiU
Tîm Gwybodaeth a Chyngor yn galw heibio ar draws Sir Gaerfyrddin Mehefin 2024. Arbedwch y dyddiadau📆
Bydd ein tîm Gwybodaeth a Chyngor sy'n gweithio o fewn y prosiect Cysylltu Sir Gaerfyrddin o gwmpas Sir Gaerfyrddin ac yn eich gwahodd i alw heibio ein stondinau gwybodaeth yn ystod mis Ebrill. Mae Cysylltu Sir Gaerfyrddin yn wasanaeth cymorth yng Ngorllewin Cymru a ariennir gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyngor a chymorth am ddim i bobl sy’n byw ar draws Sir Gaerfyrddin, mae Age Cymru Dyfed yma i ddarparu gwybodaeth a chymorth i drigolion hŷn ac oedolion ag anableddau corfforol.
Ym mis Mehefin trefnwyd sesiynau galw heibio a digwyddiadau Cysylltu Sir Gaerfyrddin:
Dydd Mercher, Mehefin 5, Hwb Caerfyrddin, 10.00am-2.00pm (a phob dydd Mercher 1af yn y mis)
Dydd Mawrth, Mehefin 11, Clwb Hamdden Henoed Bancffosfelen a Chlwb Hamdden Pensiynwyr Crwbin, 2-3.30pm
Dydd Iau, Mehefin 13, Hwb Llanelli, 10.00am -1.00pm (a phob ail ddydd Iau yn y mis)
Dydd Gwener, Mehefin 14, Hwb Rhydaman, 10.00 a.m.-2.00pm
Dydd Gwener, Mehefin 21, Canolfan y Mynydd Du, Brynaman, 10am.-2pm
E-bostiwch y cwestiynau i dderbynfa@agecymrudyfed.org.uk Gwybodaeth bellach: https://www.ageuk.org.uk/cymru/dyfed/our-services/connecting-sirgar/
Digwyddiadau Cymdeithasol Newydd bob pythefnos yn Hwlffordd ar gyfer gofalwyr di-dâl 50+
Bob yn ail ddydd Mawrth o 7 Mai, am 130-3pm Caffi Cyfle yn Hwlffordd. 7 Mai 21 Mai 4 Mehefin 18 Mehefin 2 Gorffennaf 16 Gorffennaf Dewch draw am baned a sgwrs.
Cofrestrwch isod, ffoniwch neu anfonwch neges destun at Mark ar 07866 070034.
Neu cofrestrwch ar-lein:
https://forms.office.com/e/xfyxA6M3Rh
Grwp cymdeithasol Pentywyn i bobl dros 50 oed!
☕️ 🫶😀
Gan ddechrau 14 Mai
bydd ein grŵp yn cyfarfod:
ar ddydd Mawrth
am 11am
yn ‘The Coffee Shop’
Pentywyn.
Cofrestrwch: https://forms.office.com/e/amUJGK3EyY
Beth sydd ymlaen yn eich ardal chi?
Edrychwch ar ein tudalennau Facebook ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i weld cynnwys rhanbarthol a rennir.
Grŵp Facebook Sir Gaerfyrddin: