Clinigau Gofal Traed Cymdeithasol
Clinig Cymdeithasol ar gyfer Gofal Traed
Mae cadw'n actif yn bwysig iawn, yn enwedig wrth i ni heneiddio. Gall fod yn anodd rheoli cynnal a chadw eich traed, yn enwedig ewinedd traed. Mae Age Cymru Dyfed yn darparu clinig gofal traed cymdeithasol i bobl dros 50 oed sydd angen ychydig o help ychwanegol.
Beth yw manteision allweddol y gwasanaeth hwn?
- Eich cadw'n actif ac yn symud
- Lleihau'r siawns o gwympo
- Eich helpu i aros yn annibynnol
- Cael sgwrs a gweld wyneb cyfeillgar.
Faint ydyn ni'n ei godi?
Mae gennym gost gychwynnol o £37 sy'n cynnwys eich pecyn torri ewinedd eich hun. Yna codir £22 am bob ymweliad.
Ble ydym ni?
Rydym yn cynnal dau glinig - un yng Ngogledd y sir ac un yn Ne’r sir:-
Gogledd – Aberystwyth, ar ddydd Gwener yn ein swyddfa ar Stryd y Pier
De - Aberteifi ar ddydd Mercher ym Maes Mwldan
Ffoniwch 01239 615556 i wneud apwyntiad.
Ein Staff
Mae ein gwirfoddolwyr wedi eu hyfforddi i ddarparu gwasanaeth gwasanaeth gofal traed sylfaenol gan Adran Podiatreg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Cysylltu â Ni
Teleffon: 01239 615556