Scipiwch i'r cynnwys

Veterans in View

Rydym yn frwd dros helpu cyn-filwyr hŷn ac yn cynnal prosiect arloesol o’r enw ‘Veterans In View’ (‘VIV’) a ariennir gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Mae’r prosiect hwn yn darparu cymorth ymarferol i gyn-filwyr hŷn ar draws Dyfed gan gynnwys mynediad i’r ystod o wasanaethau llesiant a ddarperir gan yr elusen ond hefyd, lle bo’n briodol, cysylltu ag elusennau ac asiantaethau eraill sy’n gallu cynorthwyo cyn-filwyr hŷn. Mae ‘VIV’ yn cael ei ddarparu gan ddau swyddog llesiant cyn-filwyr sydd ill dau eu hunain yn gyn-filwyr o’r Lluoedd Arfog.

I gysylltu â'n swyddogion llesiant cyn-filwyr e-bostiwch Neil Davies neu Owen Dobson neil.davies@agecymrudyfed.org.uk; neu owen.dobson@agecymrudyfed.org.uk neu ffoniwch derbynfa Age Cymru Dyfed ar 03333 447874.

Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru

Sefydlodd Age Cymru Dyfed Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru sydd wedi ennill gwobrau cenedlaethol, sy’n galluogi cyn-filwyr i rannu eu profiadau milwrol a chadw eu straeon i’w mwynhau gan bob cenhedlaeth.

Mae’r casgliad arloesol hwn wedi’i leoli ar Gasgliad y Werin Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ers dechrau 2020, mae’r archif wedi tyfu i fod yn adnodd dysgu cynaliadwy gwerthfawr, hygyrch i’r cyhoedd ar gyfer ysgolion, ymchwilwyr, haneswyr teulu ac eraill.

Os ydych yn gyn-filwr neu efallai bod aelod o’ch teulu wedi ‘gwasanaethu’ ac yr hoffech rannu ‘eu stori’ gydag Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru, yna cysylltwch â naill ai Neil neu Owen (cyfeiriadau e-bost uchod) neu Hugh Morgan ar hugh.morgan@agecymrudyfed.org.uk. Gellir dod o hyd i Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru ar: The West Wales Veterans' Archive | Peoples Collection Wales.

‘Rhaglen ddogfen ffilm ITV Cymru Greatest Generation’

Esblygodd y ffilm wych hon a ddangoswyd gan ITV ar 7 Mehefin 2022 o rai o straeon cyn-filwyr a gasglwyd gan Age Cymru Dyfed ar gyfer Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru. Mae’r ffilm hon yn ffocysu ar gyfweliadau a straeon gyda phump o gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd yng Nghymru sy’n edrych yn ôl dros eu bywydau hir ac yn arbennig yn rhannu eu profiadau yn ystod y rhyfel. Mae ‘Greatest Generation’ yn deimladwy, ingol, ac ar adegau, yn ddoniol iawn! I wylio'r ffilm cliciwch ar y ddolen ganlynol:Greatest Generation | Wales Programmes (itv.com)

Gwirfoddoli

Ydych chi erioed (neu ydych chi'n adnabod rhywun sydd wedi) gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y DU fel Rheolaidd, Milwr Wrth Gefn, neu yn y Gwasanaeth Cenedlaethol?

Os felly, a fyddech chi’n fodlon gwirfoddoli rhywfaint o’ch amser i’n gwaith yn cefnogi cyn-filwyr neu’n casglu eu straeon?

E-bost: lynne.meredith@agecymrudyfed.org.uk