Cyngor ar Ddementia
Os ydych yn breswylydd yng Ngheredigion ac yn byw gyda symptomau dementia, (nid oes angen diagnosis ffurfiol,) neu'n profi unrhyw fath o ddirywiad gwybyddol, yna cysylltwch â'n cynghorwyr arbenigol, i weld sut y gallwn eich helpu.
Rydym yn cynnig cymorth, gwybodaeth a chyngor wedi’u teilwra i’ch anghenion, sy’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, eich helpu chi (a/neu eich gofalwr di-dâl) i:
- uchafu eich incwm, gan gynnwys gwiriad budd-dal lles llawn
- cael mynediad at gostau cyfleustodau is a/neu wasanaethau ychwanegol
- cyrchu cyngor tai, gan gynnwys, ailgartrefu, addasiadau, technolegau cynorthwyol ac ati
- deall y system gofal cymdeithasol a sut i'w llywio
- mynediad am ddim/costau gostyngol a Bathodynnau Glas
- deall eich holl opsiynau mewn perthynas â chynllunio ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys opsiynau gwneud penderfyniadau, cynllunio angladd, ewyllysiau ac ati
- cael cymorth cymdeithasol, gan gynnwys clybiau a gweithgareddau, sy'n eich galluogi i barhau i ymgysylltu â'ch cymuned
- a llawer mwy!
Ein nod yw eich helpu i gyflawni a chynnal yr ansawdd bywyd gorau posibl, yn ogystal â'r lefelau uchaf o annibyniaeth bersonol, o fewn eich cartref eich hun a'ch cymdogaeth gyfarwydd.
Cysylltwch ag Age Cymru Dyfed am ragor o wybodaeth ar 03333 447874 neu ar e-bost jane.evans@agecymrudyfed.org.uk.
“Ni allaf ddweud yn ddigonol fy niolch i chi am eich gwaith yn fy ngalluogi i gael y cymorth yr oedd cymaint ei angen arnaf.”
“Mae eich ymdrechion diflino, siriol a chadarnhaol ar fy rhan yn llythrennol yn newid ansawdd fy mywyd er gwell, gan fy ngalluogi i dalu am yr help sydd ei angen arnaf.”
“Mae eich gwaith rhagorol wedi esgor ar wobrau...yr wythnos hon rwyf wedi derbyn fy mathodyn glas a'r lwfans gweini. Rwy’n ddyledus i chi.”