Cam-drin Domestig
Cam-drin domestig: mae angen gwneud mwy i gefnogi pobl hŷn, rydym yma i'ch helpu. Ar hyn o bryd mae gan Age Cymru Dyfed gymorth ar draws Sir Gaerfyrddin,cysylltwch am gymorth.
Cam-drin domestig
Mae angen gwneud mwy i gefnogi pobl hŷn yng ngorllewin Cymru. Mae Age Cymru Dyfed yma i'ch helpu chi i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnoch fel person hŷn.
Adroddodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am ddigwyddiadau o bobl hŷn sy’n profi cam-drin lle nad yw’r broblem yn cael ei hadrodd yn ddigonol a heb ei chofnodi’n ddigonol. Problemau y byddwn yn mynd i'r afael â hwy: Gwybodaeth a chyngor a Chyfeirio at gymorth perthnasol.
Mae'n iawn i siarad yn gyhoeddus.
Efallai eich bod chi:
- ddim yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael
- yn teimlo nad oes cymorth ar gael i genedlaethau hŷn
- yn annibynnol yn ariannol ar yr un sy’n camdrin
- teimlo ymdeimlad o gywilydd ac embaras
- ofn canlyniadau riportio am gamdriniaeth
Cysylltwch os oes angen help arnoch
Cysylltwch â'n tîm os oes angen help arnoch. Gallwn ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i rai dros 50 oed i'ch helpu i gael yr help sydd ei angen arnoch. Ar hyn o bryd, yn Sir Gaerfyrddin yn unig y mae darpariaeth ar gyfer cymorth. Os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin a hoffech siarad â rhywun am gam-drin domestig, cysylltwch â ni.
E-bost: reception@agecymrudyfed.org.uk.