Befriending Life Links
Adeiladu Cymuned Gyfeillgar ar gyfer y rheiny dros 50 oed yng ngorllewin Cymru.
Mae ein prosiect Befriending Life Links yn gweithredu ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Nod y prosiect yw cefnogi pobl dros 50 mlwydd oed sydd, am ba bynnag reswm, wedi mynd yn ynysig yn gymdeithasol, yn encilgar, wedi colli eu hyder, neu sydd â synnwyr isel o lesiant. Bwriad y prosiect yw cefnogi unigolion i wneud y pethau maen nhw’n mwynhau eu gwneud, byw’r bywyd maen nhw eisiau ei fyw a rhoi’r grym iddyn nhw gymryd rheolaeth o’u bywydau eu hunain.
Efallai y bydd rhai pobl yn cael eu hynysu oherwydd problemau iechyd, arhosiad yn yr ysbyty, profedigaeth, neu resymau eraill. Beth bynnag yw sefyllfa rhywun fe wnawn ein gorau i'w cefnogi.
Gyda’n tîm o staff a gwirfoddolwyr ymroddedig, byddwn yn gweithio gydag unigolion i ddarparu gwasanaeth wedi’i deilwra a chefnogaeth sy’n benodol i anghenion yr unigolyn.
Cysylltwch â’n cydlynwyr sirol i ddarganfod mwy:
Sir Gâr:
Yn dod cyn hir (am nawr, e-bostiwch reception@agecymrudyfed.org.uk).
Sir Benfro:
Mark Price: mark.price@agecymrudyfed.org.uk
Ceredigion:
Kim Bacon: kim.bacon@agecymrudyfed.org.uk
Gweld ein gweithgareddau a digwyddiadau