Scipiwch i'r cynnwys

Trustee Recruitment

Hoffech chi ddod yn Ymddiriedolwr gydag Age Cymru Dyfed?

Rydym yn chwilio am bobl ymroddedig, angerddol, o bob oed, gydag ystod o brofiad proffesiynol a bywyd, i ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Age Cymru Dyfed. Cofrestrwch eich diddordeb i ddarganfod mwy. Gweler y manylion isod.

P'un a ydych yn Ymddiriedolwr profiadol, ag arbenigedd penodol neu â diddordeb mewn helpu pobl hŷn, hoffem glywed oddi wrthych. Eich ymrwymiad i'r elusen fydd mynychu pedwar cyfarfod Bwrdd Ymddiriedolwyr y flwyddyn, cyfrannu at gynllunio strategol yr elusen a mynychu cyfarfodydd ad-hoc sy'n benodol i'ch set sgiliau. Fel arfer cynhelir cyfarfodydd yn rhithiol, ond weithiau wyneb yn wyneb. Byddai cael profiad mewn un neu fwy o’r meysydd isod yn fonws:

  • cyllid
  • clinigol
  • gofal cymdeithasol
  • codi arian
  • cyfreithiol
  • elusennau

Amdanom ni

Rydym yn elusen leol sy'n ymroddedig i gefnogi pobl hŷn yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin i fyw bywydau gwell. Ein cenhadaeth yw galluogi pobl 50+ oed i gynnal eu hannibyniaeth ac aros yn eu cartrefi eu hunain trwy amrywiaeth o wasanaethau a rhaglenni. Rydym hefyd yn helpu i greu a chynnal cysylltiadau cymdeithasol i fynd i’r afael ag unigrwydd a hybu llesiant meddwl yn ogystal â chyfeirio cleientiaid at wasanaethau lleol eraill a all ddarparu cymorth ac adnoddau ychwanegol.

Buddion Ymddiriedolwyr

  • Gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl hŷn yn Nyfed
  • Cyfleoedd i wneud penderfyniadau strategol
  • Mewnbwn i brosiectau a gwasanaeth cyflwyno'r elusen
  • Sefydlu a hyfforddiant perthnasol

Ein Hymddiriedolwyr Presennol

Trustee focus infographic

  • Rydym yn canolbwyntio ar yr hyn sydd â’r effaith fwyaf ar bobl hŷn.
  • Rydym yn gweithio ar y cyd i wireddu pethau a chyflawni mwy.
  • Rydym yn feiddgar, dim ofn dweud ein dweud a gwneud yr hyn sy'n iawn.