Cerflunwyr sy’n Gyn-filwyr yn Cyfarfod yng Ngorllewin Cymru a Chael Te gyda’r Chwaer Angela
Cyhoeddwyd ar 20 Ionawr 2024 06:11 yh
Cerflunwyr sy yn Gynfilwyr yn Cyfarfod yng Ngorllewin Cymru a Chael Te gyda Chwaer Angela
Ar 10 Ionawr, aeth Swyddog Llesiant Cyn-filwyr ACD, Neil Davies, â’r Cyn-filwr Morol Brenhinol Joe Wilson i ymweld â chyn-filwr y Fyddin Harry Comley. Mae Joe yn Gerflunydd Amatur cyhoeddedig ac roedd yn awyddus i gwrdd â Harry, cerflunydd proffesiynol medrus wedi ymddeol ac yn gyn filwr. Cafodd Joe ei swyno’n llwyr â sgil ac ansawdd gwaith Harry. Mae’r ddau lun yn dangos Harry wrth ei waith yn ei weithdy a hefyd gerflun a greodd Harry ar gyfer eglwys “Mair y Tapr” yn Aberteifi a’r Lleiandy gerllaw.
Fe wnaeth Harry a Neil hefyd gyfarfod â’r Chwaer Angela a’r Tad Pius Augustus a llwyddodd Harry i archwilio’r Cerfluniau a’r cerfiadau a greodd ar gyfer yr eglwys ac a welodd ddiwethaf dros 20 mlynedd yn ôl. Roedd hefyd yn gallu dweud wrth y Chwaer a’r Tad am y stori y tu ôl i'r darnau gwych yma. Roedd yn ddiwrnod bendigedig i Harry ac mae wedi cael ei wahodd yn ôl i’r Lleiandy am De gyda’r Chwaer Angela.