Sut Wnaeth y Gwirfoddolwr Lottie Helpu Age Cymru Dyfed
Cyhoeddwyd ar 09 Mawrth 2024 08:08 yb
Mae Charlotte Dunn yn adnabyddus i bawb fel Lottie a wnaeth wirfoddoli yng nghlinig Gofal Traed Age Cymru Dyfed yn Aberteifi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Astudiais mewn ysgol a oedd yn sefydliad SMAE, sydd wedi’i lleoli ym Maidenhead. Treuliais ychydig llai na 2 flynedd i gwblhau’r cwrs ac ennill cymhwyster Diploma Ymarferydd Iechyd Traed lefel 4.
“Roedd fy amser yn Age Cymru Dyfed yn wych. Roeddwn wrth fy modd yn gweithio gyda’r holl gleientiaid a’r tîm yn Aberteifi. Yn enwedig [y staff] Carol a Jane cyn iddi ymddeol. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl brofiad a hyder a roddodd y cyfnodau gwirfoddoli i mi dros y flwyddyn a hanner a dreuliais yno.
“Mae'n wasanaeth gwych, rhywbeth a gollwyd yn eang yn y system gofal iechyd. Rwy'n gobeithio y bydd yn parhau oherwydd mae bob amser angen amdano.
“Diolch eto am bopeth.” (Charlotte Dunn)
Sut i gymryd rhan
Dywedodd Lynne Meredith, Rheolwr Gwirfoddoli Age Cymru Dyfed,
“Mae cymaint o alw am y gwasanaeth hwn a byddem wrth ein bodd yn ehangu ein clinigau ar draws gorllewin Cymru a recriwtio mwy o wirfoddolwyr er mwyn ein galluogi i gefnogi mwy o bobl gyda’u hanghenion gofal traed.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gan unrhyw un 18+ sydd naill ai â chefndir nyrsio neu sydd am ennill sgiliau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel llwybr i gyflogaeth yn union fel y gwnaeth Lottie. Bydd cefnogaeth a hyfforddiant llawn yn cael eu darparu.”
Cymryd rhan
I ddysgu am y gwasanaeth a sut y gallwch wneud gwahaniaeth fel gwirfoddolwr gweler y wybodaeth isod a chyfleoedd gwirfoddoli ehangach ar ein hwb gwirfoddoli.