Scipiwch i'r cynnwys

Yr hyn y mae Pobl Dros 65 oed yng Nghymru yn ei Ddweud Am y Nadolig

Cyhoeddwyd ar 13 Rhagfyr 2024 01:06 yh

loneliness stats

Yr hyn y mae Pobl Dros 65 oed yng Nghymru yn ei Ddweud Am y Nadolig

Mae’r Nadolig yn gyfnod o fod yn agos at ein gilydd, ond yn anffodus mae pobl hŷn yn teimlo’n fwy ynysig adeg y Nadolig nag unrhyw adeg arall o’r flwyddyn. I filoedd o bobl hŷn sy’n teimlo’n unig, yn angof neu sydd heb neb arall i droi ato am gymorth yng ngorllewin Cymru, mae Age Cymru Dyfed yn achubiaeth.

Cynhaliodd Yonder arolwg ar-lein a thros y ffôn ar ran ein partner Age UK. Arolygwyd sampl o gyfanswm o 2,755 o oedolion 65+ oed yn y DU rhwng 2 a 29 Hydref 2024. Pwysolwyd yr ymatebion i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth y DU.

O’r sampl hwnnw, cynhaliodd Age Cymru arolwg o 160 o oedolion 65+ oed o Gymru. Tynnir yr holl ystadegau o'r bleidlais hon oni nodir yn wahanol. Cymerir targedau ar gyfer cwotâu a phwysau o ddata Cyfrifiad diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2021/22) ac arolwg PAMCO, sef arolwg F2F tebygolrwydd ar hap a gynhelir yn flynyddol gyda 35,000 o oedolion.

Mae Yonder yn aelod sefydlol o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn glynu at ei reolau. Am ragor o wybodaeth gweler http://www.britishpollingcouncil.org/”

Yr hyn a adroddwyd

  • Bydd 43,375 o bobl hŷn yn unig y Nadolig hwn
  • Nid oes gan 38,669 o bobl hŷn unrhyw un i gyfnewid anrhegion neu gardiau â nhw y Nadolig hwn
  • Ni fydd 48,558 o bobl hŷn yn gweld nac yn siarad ag unrhyw un ar Ddydd Nadolig
  • Bydd 73,588 o bobl hŷn yn treulio'r Nadolig hwn yn gwylio'r teledu ar eu pen eu hunain
  • Bydd 90,979 o bobl hŷn yn bwyta cinio ar eu pen eu hunain ar Ddydd Nadolig
  • Mae 422,499 o bobl hŷn yn gobeithio derbyn galwad gan rywun y Nadolig hwn.

Cyfrannwch heddiw!

Ni ddylai unrhyw berson hŷn fyth deimlo'n unig ac yn ynysig, yn enwedig dros y Nadolig.

I’r mwyafrif, mae’r Nadolig yn amser o ddathlu a threulio amser gyda theulu a ffrindiau. Ond i lawer o bobl hŷn, mae hwyl yr ŵyl yn parhau i fod allan o gyrraedd. Gyda’ch cefnogaeth chi gallwn barhau i fod yma ar gyfer pobl hŷn pan fydd ein hangen fwyaf.

Mae gan eich cefnogaeth y pŵer i newid hyn.

Gyda'n gilydd, nid ydym ar ein pennau ein hunain. Cyfrannwch heddiw.