Scipiwch i'r cynnwys

Rhodd Currys Aberystwyth i Age Cymru Dyfed

Age Cymru Dyfed - Currys Aber

Cyhoeddwyd ar 29 Mai 2023 12:45 yh

RHODD CURRYS ABERYSTWYTH I AGE CYMRU DYFED

Yr wythnos hon, fe wnaeth yr elusen poblogaidd i'r rhai dros eu pumdegau, Age Cymru Dyfed, dderbyn cyfraniad ariannol gwych gan Currys Aberystwyth o oddeutu £500, gyda Phennaeth Gweithrediadau Age Cymru Dyfed Jo Westlake yn mynychu'r siop i gasglu'r siec a diolch i'r staff. 

Y llynedd, ail-frandiwyd siop Currys yn Aberystwyth tra dewisodd Currys Age UK fel eu helusen noddedig. Roedd y Rheolwr Siop Jodie Cooper eisiau cefnogi’r rhai dros 50 oed yn lleol ymhellach a phenderfynodd estyn allan i Age Cymru Dyfed i gynnig eu helw ar gyfer 2022 o roddion raffl a gynlluniwyd, gan sicrhau bod y gymuned leol yn elwa’n uniongyrchol.

Dywedodd Simon Wright Prif Swyddog Gweithredol Age Cymru Dyfed;

“Hoffai Age Cymru Dyfed ddiolch yn fawr i Currys Aberystwyth, Jodie, a’r staff, yn ogystal â busnesau lleol a roddodd y gwobrau raffl gwych i helpu Dyfed i garu bywyd yn hwyrach.

Diolch hefyd i gwsmeriaid y siop yn Aberystwyth a wnaeth gefnogi ein hachos. Mae hon yn arwydd caredig iawn ac arweiniodd at gyfraniad o £434.00 i'w groesawu. Bydd yr arian y mae mawr ei angen yn mynd tuag at wasanaethau a phrosiectau Age Cymru Dyfed sy'n cefnogi pobl dros 50 oed yng Ngorllewin Cymru mewn amryw o ffyrdd.

Gan ein bod yn elusen annibynnol rydym yn dibynnu’n fawr ar godi arian, rhoddion a ffrydiau ariannu eraill i redeg gwasanaethau pwysig ar draws rhanbarth Gorllewin Cymru i lenwi bylchau mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill i helpu pobl i fyw bywydau annibynnol yn hirach.”

Cymryd rhan! 

Cefnogwn fusnesau, sefydliadau, grwpiau ac unigolion yng Ngorllewin Cymru sy’n dymuno codi arian neu wirfoddoli eu hamser (cyn lleied â 2 awr yr wythnos) i helpu i godi arian ar gyfer eu cymunedau’n hwyrach mewn bywyd yng Ngorllewin Cymru.

Mae Age Cymru Dyfed, elusen annibynnol Gorllewin Cymru ar gyfer pobl dros 50 oed, yn helpu'r rhai sy'n byw yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro sydd dros 50 mlwydd oed. Drwy godi arian ar gyfer Age Cymru Dyfed, rydych yn sicrhau bod pob rhodd yn aros o fewn yr ardal leol. 

Canlyniadau yn Age Cymru Dyfed 

  • Helpodd Age Cymru Dyfed i ddod â gwerth miliwn o bunnoedd o fuddion pensiwn y flwyddyn na fyddai fel arall wedi'u hawlio gan drigolion Gorllewin Cymru gyda Gwybodaeth a Chyngor.
  • Cefnogodd Age Cymru Dyfed fyw'n annibynnol am gyfnod hwy, gyda chymorth sgiliau digidol (gweithdai siopa a bancio ar-lein).
  • Helpodd Age Cymru Dyfed i leihau unigrwydd gyda ‘Befriending Life Links’, prosiect a wnaeth helpu 9,447 o unigolion gyda digwyddiadau cymdeithasol, gweithgareddau ac un-i-un yn 2022 yn unig.
  • Mae prosiectau eraill yn cynnwys Veterans in Voice, Cefnogaeth Dementia, a gwasanaethau cymorth cartref arobryn ‘Byw Adref’, Cymorth Eiriolaeth (HOPE) a llawer mwy! 

Ewch i'n gwefan am ragor o wybodaeth neu e-bostiwch: reception@agecymrudyfed.org.uk.

Helpwch Dyfed (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro) i garu bywyd yn hwyrach heddiw!