Scipiwch i'r cynnwys

Cyfle Ariannu Newydd i Ofalwyr yn Sir Gaerfyrddin

Cyhoeddwyd ar 29 Hydref 2024 09:01 yh

carers funding

Cyfle Ariannu Newydd i Ofalwyr yn Sir Gaerfyrddin

Mae Cronfa Tai â Gofal Sir Gaerfyrddin wedi lansio rownd newydd o grantiau cyfalaf i gefnogi gofalwyr di-dâl, gyda cheisiadau ar agor tan 28 Chwefror 2025. Mae'r fenter hon yn rhoi cyfle gwerthfawr i ofalwyr gael hyd at £1,000 o gyllid i helpu i brynu nwyddau hanfodol, a gwasanaethau a all naill ai eu cynorthwyo yn eu dyletswyddau gofalu neu wella eu llesiant cyffredinol.

 Cynlluniwyd y gronfa i gefnogi ystod o anghenion, gan gynnwys: 

  • atgyweirio a gwella cartrefi: gellir defnyddio cyllid ar gyfer atgyweiriadau, adnewyddu, neu welliannau i gartrefi sy'n gwasanaethu fel tai presennol gyda lleoliadau gofal.
  • offer a mân addasiadau: gall gofalwyr wneud cais am fân addasiadau ac offer nad ydynt yn dod o dan grantiau eraill Llywodraeth Cymru. Gallai hyn gynnwys lle storio ar gyfer cymhorthion symudedd, cadeiriau olwyn, neu offer angenrheidiol arall.
  • Cymhorthion digidol a thechnolegau cynorthwyol: mae grantiau hefyd ar gael ar gyfer technoleg sy'n helpu gofalwyr i fonitro a chynorthwyo'r rhai y maent yn gofalu amdanynt.

I fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn, rhaid i ofalwyr fodloni un o’r meini prawf canlynol:

  • yn darparu 50 neu fwy o oriau o ofal di-dâl yn wythnosol o fewn eu cartref
  • yn derbyn Lwfans Gofalwr
  • yn gofalu am oedolyn hŷn (dros 55 oed)

Dim ond un cais a ganiateir fesul gofalwr neu aelwyd sy'n gofalu am yr un unigolyn, felly mae'n hanfodol gwneud y gorau o'r cyfle hwn.

Os ydych chi'n ofalwr yn Sir Gaerfyrddin, peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael cymorth ariannol a gwneud eich cyfrifoldebau gofalu ychydig yn haws. Mae ceisiadau yn cau ar 28 Chwefror 2024. 

Carmarthenshire Carers Application Form (Word)