Diolch enfawr i'r Gwirfoddolwr Hedydd
Cyhoeddwyd ar 13 Ebrill 2025 09:35 yb
Rydym am gymryd eiliad i roi diolch o galon i Hedydd, un o’n gwirfoddolwyr anhygoel.
Mae Hedydd wedi cefnogi Age Cymru Dyfed ac Age Cymru Ceredigion blaenorol ers dros wyth mlynedd, a diolchwn yn arbennig iddi am y gwaith a wnaeth yn ein gwasanaeth torri ewinedd traed.
Gwnaeth amser, ymroddiad a thosturi Hedydd wahaniaeth mor barhaol i’n tîm a’r bobl hŷn rydym yn eu cefnogi – daeth â chysur, gofal a charedigrwydd i gynifer – ni allem fod yn fwy diolchgar.
"Diolch am bopeth rydych chi wedi'i gyfrannu dros y blynyddoedd Hedydd. Rydyn ni'n mawr obeithio bod y profiad wedi bod yr un mor werthfawr i chi ag y mae wedi bod yn ystyrlon i ni."
Cymerwch ran
P'un a ydych chi'n weithiwr proffesiynol wedi ymddeol sydd eisiau rhoi yn ôl mewn swyddogaeth ffurfiol, yn fyfyriwr ifanc gydag ychydig oriau i'w sbario fel gwirfoddolwr anffurfiol, neu rywbeth rhyngddynt, mae'r cyfan yn helpu i wneud gwahaniaeth enfawr.
Bob dydd, mewn cymaint o ffyrdd, mae ein gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser a’u hymdrech i wneud gwahaniaeth anhygoel i bobl hŷn yng Ngorllewin Cymru. Hebddynt, ni allem fod yma pan fydd ein hangen fwyaf.
A wnewch chi ymuno â ni? I gael gwybodaeth am ddod yn wirfoddolwr ewch i: