Scipiwch i'r cynnwys

Gyda'n gilydd, does neb yn unig

Cyhoeddwyd ar 04 Rhagfyr 2024 11:16 yb

together not alone

Mae’r Nadolig yn gyfle i ni fwynhau cwmni ein gilydd, ond yn anffodus mae nifer o bobl hŷn yn teimlo’n hynod o unig dros yr Ŵyl.

Eleni, rydyn ni eisiau creu newid. Rydyn ni’n galw ar bawb i ddod at ei gilydd a chefnogi Age Cymru Dyfed, er mwyn darparu cysur, cyfeillgarwch a llawenydd i bobl sydd angen ein help.

I nifer o bobl hŷn sy’n teimlo’n unig, yn angof, neu sydd ar eu pen eu hun, mae Age Cymru Dyfed yn achubiaeth.

  • Trwy ein gwasanaethau cynghori, mae gwybodaeth a chymorth yn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac yn helpu pobl i gael mynediad at fudd-daliadau nad oeddent yn sylweddoli eu bod yn bodoli.

  • Trwy ein cyfeillio, rydym yn cysylltu pobl hŷn unig â grwpiau cymdeithasol, yn cynnig clust i wrando, ac yn darparu llais cyfeillgar.

  • Trwy ein prosiect digidol, rydym yn hyfforddi pobl mewn siopa digidol a bancio i gefnogi byw'n annibynnol.

  • Drwy ein gwasanaeth i gyn-filwyr, rydym yn cefnogi anghenion cyn-filwyr hŷn ac yn cadw eu straeon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

  • Trwy ein gwasanaeth Cysylltwr Llesiant Dementia, rydym yn cysylltu pobl â’r cymorth sydd ei angen arnynt.

  • Trwy ein gwasanaeth Cysylltu Sir Gaerfyrddin, rydym yn meithrin cadernid ar gyfer pobl dros 50 oed ac oedolion ag anableddau corfforol.

  • Trwy ein gwasanaeth Byw Adref gwobrwyedig, rydym yn darparu cymorth sydd mawr ei angen yn y cartref.

Ni allwn gyflawni hyn ar ein pen ein hun. Mae angen eich cefnogaeth ar Age Cymru Dyfed er mwyn creu newid go iawn i bobl hŷn, unig yn ystod cyfnod anodd.

Ni ddylai unrhyw un deimlo’n unig ac yn ynysig, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig. Gallwch chi newid hyn.

Mae pob rhodd, unrhyw rodd, yn medru helpu Age Cymru Dyfed i ddarparu cysylltiad a chwmnïaeth i bobl hŷn.

Gyda’n gilydd, gallwn helpu i newid bywydau pobl hŷn, unig.

Rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.


Gyda’n gilydd, gallwn ni helpu i newid bywydau pobl hŷn, unig

A wnewch chi roi heddiw er mwyn helpu Age Cymru Dyfed i ddod â chysur, cyfeillgarwch a llawenydd i fywydau pobl hŷn, unig.

Ffyrdd o Roddi i Ni