Hyrwyddwyr Digidol yn Helpu gyda Thechnoleg Ddigidol
Cyhoeddwyd ar 08 Ebrill 2025 07:47 yh
Cydnabyddiaeth haeddiannol i’n pencampwr digidol anhygoel yn Age Cymru Dyfed am gefnogi gŵr bonheddig 85 oed ar-lein!
Ar ôl dwy sesiwn, gall nawr ddefnyddio ei ffôn clyfar yn hyderus i anfon e-byst a siopa ar-lein yn Morrisons. Mae'n wych gweld sgiliau digidol yn gwneud tasgau bob dydd yn haws ac yn fwy hygyrch.
Gwaith gwych!🙌📲
Mae Age Cymru Dyfed yn cynnal amrywiaeth o brosiectau cynhwysiant digidol i helpu pobl hŷn, yn enwedig i ddatblygu eu sgiliau digidol. Mae pob gwasanaeth cynhwysiant digidol yn hollol rhad ac am ddim! Gofynnwn i chi ddod ag ymrwymiad i fynychu sesiynau a pharodrwydd i ddysgu sgiliau ar-lein newydd.
Sesiynau Digidol – cymorth cynhwysiant digidol lleol am ddim i’r rhai 50+
Mae'r byd wedi symud yn gynyddol ar-lein yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rhai nad oes ganddynt fynediad i'r rhyngrwyd neu ddyfais symudol, na'r hyder i wneud pethau ar-lein, mewn perygl o gael eu heithrio o wasanaethau a chyfleoedd. Mae hefyd yn golygu colli allan ar yr holl fanteision y gall y Rhyngrwyd eu cynnig, megis:
- cysylltiad cymdeithasol
- cadw llygad ar eich iechyd
- cyrchu gwybodaeth
- cynilo arian
- siopa ar-lein
Lansiwyd ein prosiect digidol i gefnogi pobl 50+ oed sydd eisiau dysgu sut i lywio’r Rhyngrwyd. Cynhelir sesiynau cymorth gan ein gwirfoddolwr cyfeillgar 'Hyrwyddwyr Digidol'. Maent yn cynnig cefnogaeth yn bersonol ac o bell.
Am fwy o wyboadeth cysylltwch gyda:
- Derbynfa: reception@agecymrudyfed.org.uk,
- Ffoniwch 03333 447 874.