6 Ffordd at Gynhesrwydd y Gaeaf yng Ngorllewin Cymru
Cyhoeddwyd ar 04 Chwefror 2024 07:05 yh
6 Ffordd at Gynhesrwydd y Gaeaf yng Ngorllewin Cymru
Gall y gaeaf fod yn amser caled. Tywydd diflas, nosweithiau tywyll, felan ar ôl y Nadolig, arian ddim yn mynd yn bell … does ryfedd fod nifer ohonom yn cael trafferth. Ond wrth i ni fynd yn hŷn, gall misoedd hir y gaeaf deimlo’n llawer anoddach. Gall tymereddau oer effeithio'n ddifrifol ar ein hiechyd. Gall anhawster i fynd allan ein gadael yn teimlo'n unig ac wedi ein hynysu. Gall biliau ynni cynyddol a'r argyfwng costau byw parhaus wneud goroesi ar incwm cyfyngedig bron yn amhosibl. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn gofalu am ein gilydd – fel y gallwn guro’r gaeaf hwn gyda’n gilydd.
- Cael eich pigiad ffliw am ddim a phigiad atgyfnerthu hydref COVID-19 1 4 os ydych yn 65+ neu'n ofalwr. Gwiriwch pa frechlynnau eraill y gallech fod yn gymwys i'w cael, fel yr eryr.
- Os ydych chi'n poeni am eich iechyd, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei wirio. Siaradwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, ffoniwch 111, neu ewch i fferyllfa leol.
- Siaradwch â rhywun os ydych chi'n teimlo’n iawn neu'n unig. 5 3 6 Mae eich iechyd meddwl yn bwysig.
- Lapiwch a chadwch eich cartref yn ddigon cynnes. Wrth i ni heneiddio, gall newidiadau i'n cyrff olygu bod yr oerfel yn effeithio ar ein hiechyd yn fwy nag yr oedd yn arfer gwneud.
- Mynnwch gefnogaeth os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch arian. Ewch i’n gwefan neu ffoniwch ein llinell gymorth os oes angen cyngor ynni arnoch neu os ydych yn cael trafferth talu eich biliau.
- Parhewch i symud a bwyta digon y gaeaf hwn. Mae'n bwysig cadw'n hydradol hefyd.
Cefnogaeth Ychwanegol
Am ragor o gymorth a chyngor edrychwch ar y dolenni canlynol a gallwch anfon e-bost neu ein ffonio yn Age Cymru Dyfed am gyngor pellach.
- Gwiriadau ynni cartref am ddim i bobl dros 65 oed
- Trydydd taliad Costau Byw
- Cefnogaeth Cam-drin Domestig
- Cymorth gyda Chostau Byw