Cynllun Busnes Strategol 2024
Crynodeb:
Rydyn yn gosod pobl wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud. Rydym yn sicrhau newid o ansawdd uchel ac yn annog ac yn gwerthfawrogi ein gweithwyr a'n gwirfoddolwyr. Mae hwn yn Gynllun Busnes Strategol pum mlynedd a gaiff ei addasu dros amser wrth i’r dirwedd ar gyfer pobl hŷn, ac Age Cymru Dyfed, newid. Mae rhywfaint o ansicrwydd wrth i ni edrych ymlaen at 2029 felly bydd ein cynlluniau’n cael eu datblygu ar sail y dysgu a’r wybodaeth a gafwyd ar hyd y ffordd.
Mae Age Cymru Dyfed wedi ymrwymo i helpu pobl 50+ oed yng ngorllewin Cymru i fyw'n annibynnol ac yn iach.
- Mae ein Cynllun Busnes Strategol pum mlynedd yn amlinellu sut y byddwn yn parhau i gefnogi pobl hŷn, eu teuluoedd a'u gofalwyr drwy ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
- Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio ar gynnydd a heriau cynyddol fel ynysigrwydd cymdeithasol, caledi ariannol, ac anghydraddoldebau iechyd, mae ein blaenoriaethau’n cynnwys lleihau unigrwydd, gwella llesiant, cefnogi cynhwysiant digidol, a sicrhau cynaliadwyedd. Byddwn yn ehangu gwasanaethau cyfeillio, yn hyrwyddo mynediad at fuddion, yn datblygu partneriaethau newydd, ac yn croesawu technoleg arloesol i wella'r modd y darperir gwasanaethau.
- Mae'r cynllun hwn yn ddogfen fyw, sy’n esblygu wrth i anghenion newid. Drwy gydweithio, arloesi, ac ymrwymiad dwfn i’r bobl rydym yn eu gwasanaethu, bydd Age Cymru Dyfed yn parhau i fod yn llais y gellir ymddiried ynddo. Bydd yn gymorth hanfodol i drigolion hŷn ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Lawrlwythwch y ddogfen yn llawn yma:
Gweler Cynllun Busnes Strategol Age Cymru Dyfed 2024-2029 isod, cliciwch i lawrlwytho PDF.
Cynllun Busnes Strategol 2024-9 PDF
2020-2023: