Am Age Cymru Dyfed
Mae Age Cymru Dyfed yma i helpu pobl Dyfed i garu bywyd yn hwyrach fel y gwasanaeth cymorth dibynadwy i fynd iddo ar gyfer y rheiny dros 50 oed.
Rydyn ni yma i helpu Dyfed i garu bywyd yn hwyrach!
Yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae Age Cymru Dyfed yn elusen oed-gyfeillgar annibynnol sy’n gwasanaethu pobl Gorllewin Cymru. Rydym yma i bobl hŷn pan fydd ein hangen arnynt. Prif amcan Age Cymru Dyfed yw datblygu a darparu gwasanaethau cymorth ac ymyriadau arbenigol o ansawdd uchel ar gyfer pobl hŷn yn bennaf a'u teuluoedd yn y cartref a hefyd yn y gymuned.
Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae pobl hŷn yn wynebu rhai o’r heriau anoddaf. Ni all rhai mewn tlodi cael y gofal sylfaenol sydd ei angen arnynt i fyw ag urddas. Rydyn ni yma i'w helpu neu i'w cefnogi - mae unigrwydd yn frwydr feunyddiol a helpu'r rhai yn eu bywydau’n hwyrach i fwynhau bywyd annibynnol yw ein cenhadaeth.
Ynghyd â’n partneriaid lleol
- darpariaeth o wybodaeth a chyngor
- darparu rhaglenni llesiant
- gwasanaethau eiriolaeth annibynnol
- cefnogaeth i ofalwyr
- helpu ein cyn-filwyr
- prosiect cynhwysiant digidol
Mae ein sefydliad ar draws y tair sir yn ein galluogi i leihau costau cefn swyddfa, symleiddio ein gwasanaethau a chynyddu’r cyfle i ehangu’r modd y darperir gwasanaethau mewn ffordd gyson a mwy cynaliadwy ar draws ardal ddaearyddol ehangach.
Ein hymddiriedolwyr
- Harvey Jones
- Peter Hamilton
- Caroline Streek
- Allan Williams
- Peter Loughran
- Kate Curran
- Vanessa Walker
- Jack Lambert
- Anthony Mattick
- Mark Williams