Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Ymateb Age Cymru i gyhoeddiad y Canghellor am gyflwyno profion modd ar gyfer taliad tanwydd y Gaeaf.

Published on 06 Awst 2024 09:48 yb

Gyda chyhoeddiad y Canghellor y bydd profion modd yn cael eu cyflwyno ar gyfer taliadau tanwydd y Gaeaf, mae Age Cymru yn hynod o bryderus am yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar bobl hŷn ledled Cymru. I lawer, mae taliad tanwydd y gaeaf yn achubiaeth er mwyn iddynt fedru cadw eu cartrefi'n gynnes yn ystod misoedd oer y gaeaf.

Gyda disgwyl i'r Cap Pris Ynni godi i tua 10% ym mis Hydref eleni gan aros yn uchel yn ystod y Gaeaf, bydd hyn yn golygu y bydd cyfanswm biliau ynni’r rhan fwyaf o bobl bron yn dyblu o gymharu â’r cyfanswm cyn yr argyfwng costau byw.  Mae’r gost yn anfforddiadwy i lawer o bobl hŷn ledled Cymru.

I bobl sy'n ceisio ymdopi nad ydynt yn gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn, mae hyn yn peri pryder cynyddol. Gwyddom fod y mwyafrif o bobl hŷn ar incwm sefydlog felly mae'n anodd talu unrhyw gostau annisgwyl.  Mae llawer o bobl hŷn ar fin mynd i drafferthion ariannol difrifol.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Victoria Lloyd: "Rydym yn gwybod nad yw miloedd o gartrefi yng Nghymru yn hawlio'r £200miliwn y mae ganddynt hawl iddo o ran Credyd Pensiwn, felly mae angen gwneud llawer mwy i gefnogi'r bobl hyn i gael mynediad at yr hyn y maent yn gymwys i’w dderbyn.

Mae cynnal profion modd ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf yn golygu mai ond ychydig o amser sydd gan bensiynwyr i baratoi ac mae'n benderfyniad a allai beryglu eu hiechyd yn ogystal â'u cyllid.

Mae incwm addas yn darparu urddas a diogelwch, ac yn helpu pobl i aros yn annibynnol ac yn iach. Mae cartref cynnes, bwyd maethlon, cyfleoedd achlysurol i fwynhau a gallu mynd allan i’r gymuned yn bethau cadarnhaol sy’n cynnal iechyd a lles, gan helpu pobl hŷn i wneud y gorau o’u bywydau wrth iddynt heneiddio. Dylai pobl person hŷn yng Nghymru fedru disgwyl y profiadau hyn."

 

Last updated: Awst 06 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top