Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Mae pobl hŷn yng Nghymru'n colli'r cyfle i hawlio miloedd o bunnoedd o fudd-daliadau

Published on 19 Awst 2024 01:10 yh

Dewch i gael sgwrs gyda phartneriaeth Age Cymru i drafod sut i hawlio budd-daliadau ac arfer eich hawliau

Partneriaeth yn lansio ei ymgyrch Mwy o Arian yn eich Poced

Mae Partneriaeth Age Cymru yn annog pobl hŷn ledled Cymru i ddod i gael sgwrs gyda'r elusen er mwyn trafod sut i hawlio budd-daliadau ac arfer eu hawliau.  Mae'r elusen yn lansio ei hymgyrch Mwy o Arian yn eich Poced, er mwyn cefnogi pobl hŷn yng Nghymru sy'n colli'r cyfle i hawlio miloedd o bunnoedd o fudd-daliadau.

Gallai'r arian gefnogi llawer o bobl hŷn cymwys ledled Cymru. Yn 2024, gwnaeth arolwg Age Cymru, 'Beth sy'n bwysig i chi?', ddarganfod fod bron i hanner (48%) y 1300 a mwy o ymatebwyr yn dweud bod yr argyfwng costau byw  wedi bod yn her yn ystod y 12 mis diwethaf.

Felly, mae timau Cyngor y Bartneriaeth yn annog pobl hŷn i archwilio eu holl opsiynau, hyd yn oed os nad oedden nhw'n llwyddiannus wrth hawlio yn y gorffennol.  Meddai Age Cymru ei bod hi'n werth edrych eto ar hawliadau; efallai bod eich amgylchiadau personol wedi newid a'ch bod chi nawr yn gymwys i dderbyn rhai budd-daliadau.

Wrth gwrs, mae'n bwysicach nag erioed bod pobl yn hawlio eu holl fudd-daliadau a'u hawliau yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan eu bod yn bwriadu cyfyngu ar Daliadau Tanwydd y Gaeaf i'r rhai sy'n hawlio Credyd Pensiwn a rhai budd-daliadau tebyg eraill. Cyfeirir at Gredyd Pensiwn yn aml fel porth oherwydd ei fod yn medru arwain at fathau eraill o gefnogaeth sy'n cefnogi pobl hŷn.

Dywedodd Rheolwr Gwybodaeth a Chyngor Age Cymru, Nel Price: "Gall hawlio'r holl fudd-daliadau a hawliau sydd ar gael wneud gwahaniaeth mor enfawr i fywydau pobl hŷn a'u galluogi i reoli eu cyllid fel y gallant dalu eu biliau a gobeithio y bydd gennych arian sbâr dros ben i gymdeithasu gyda theulu a ffrindiau, neu efallai hyd yn oed fuddsoddi ychydig i mewn i wy nythu am flynyddoedd diweddarach. 

"Felly os gwelwch yn dda, os gwelwch yn dda, os ydych chi, neu berson hŷn rydych chi'n ei adnabod, yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, cysylltwch â'r Bartneriaeth fel y gallwn gael sgwrs am yr holl opsiynau a allai fod ar gael."

Astudiaeth Achos: Helpodd y Bartneriaeth un pâr hŷn i gynyddu eu hincwm blynyddol £16,346

Aeth pâr hŷn at un o bartneriaid Age Cymru i ofyn am help ariannol i addasu eu hystafell ymolchi.  Cafodd y pâr gymorth i wirio eu budd-daliadau llawn er mwyn archwilio eu cymhwysedd ar gyfer ystod o fudd-daliadau a hawliau yn cynnwys Credyd Pensiwn, Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, Lwfans Gofalwr a thaliadau Costau Byw.

O ganlyniad, mi wnaeth incwm blynyddol y pâr gynyddu £16,346.  Bellach, roedd y pâr yn medru byw'n fwy cyffyrddus heb boeni am eu sefyllfa ariannol, ac roedden nhw'n medru trefnu'r addasiadau angenrheidiol yn eu hystafell ymolchi.

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth ffoniwch Age Cymru ar 0300 303 44 98 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm, e-bostiwch advice@agecymru.org.uk neu ewch i www.agecymru.org.uk/more-money-in-your-pocket

Gallwch chi hefyd ffonio eich partner Age Cymru lleol:

Age Cymru Dyfed – 03333 447 874

Age Cymru Gwent – 01633 240 190

Age Cymru Gwynedd a Môn – 01286 677711

Age Cymru Powys – 01686 623707

Age Cymru Gorllewin Morgannwg – 01792 648 866

Diwedd

 

Last updated: Awst 19 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top