Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Mae Age Cymru'n enwebu Karl Jenkins am wobr 'Ysgogwr Newid' i gydnabod ei waith yn herio stereoteipiau am bob hŷn

Published on 15 Awst 2024 04:04 yh

Mae'r cyfansoddwr o Ŵyr yn gwthio ffiniau cerddorol yn 80 oed

Mae Age Cymru wedi enwebu'r cyfansoddwr, arweinydd ac aml-offerynnwr rhyngwladol Karl Jenkins fel Ysgogwr Newid.  Mae'r anrhydedd yn dathlu'r bobl hynny sy'n herio stereoteipiau am heneiddio, ac sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu meysydd creadigol gwahanol. 

Ganwyd Syr Karl William Pamp Jenkins, ei deitl llawn, ym 1944 ym Mhenclawdd, ar benrhyn Gŵyr, ger Abertawe, i fam o Sweden a thad o Gymru.  Roedd ei dad yn athro mewn ysgol leol, yn chwarae'r organ yn y capel, ac yn gôr-feistr.  Roedd ei dad yn ddylanwad cynnar ar Karl Jenkins wrth iddo ddechrau ar ei yrfa gerddorol.  Ar ôl mynychu Ysgol Ramadeg Tregŵyr, astudiodd Jenkins gerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna dechreuodd astudiaethau ôl-raddedig yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.

Mae gweithiau mwyaf adnabyddus Jenkins yn cynnwys y gân 'Adiemus', Palladio, The Armed Man, His Requiem, a'i Stabat Mater. Ymunodd â'r band jazz-roc Soft Machine ym 1972, daeth yn brif gyfansoddwr caneuon y grŵp ym 1974 a pharhaodd i weithio gyda nhw am y deng mlynedd nesaf.  Mae hefyd wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer sawl ymgyrch hysbysebu ar y radio a'r teledu.

Dyfarnwyd doethuriaeth anrhydeddus mewn cerddoriaeth i Jenkins gan Brifysgol Cymru ac fe'i gwnaed yn gymrawd (FRAM) ac yn gydymaith (ARAM) o'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.  Mae ganddo gymrodoriaethau ym Mhrifysgol Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Coleg y Drindod Caerfyrddin, a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Yn 2022 cafodd ei ethol yn Gymrawd er Anrhydedd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Dywedodd arweinydd y prosiect, Kelly Barr: "Karl Jenkins yw'r enghraifft berffaith o Ysgogwr Newid. Trwy gydol ei yrfa hir a nodedig, mae wedi arloesi yn gyson mewn gwahanol fathau o gerddoriaeth. Ar yr un pryd, mae hefyd wedi gwneud ei waith mor hygyrch â phosibl i'r cyhoedd. A does gen i ddim amheuaeth ei fod wedi ysbrydoli llawer o gerddorion eraill i ddilyn eu breuddwydion cerddorol."

Enwebu Ysgogwr Newid

Os ydych chi'n adnabod person hŷn fel Karl sydd wedi herio stereoteipiau heneiddio ac sydd wedi arloesi yn eu maes, beth am eu henwebu i fod yn rhan o brosiect Creu Newid Age Cymru. Bydd Ysgogwyr Newid yn cael ei dathlu ochr yn ochr â Karl mewn arddangosfa ar-lein a gellir ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect, ffoniwch Age Cymru ar 0300 303 44 98, e-bostiwch gwanwyn@agecymru.org.uk, neu ewch i www.agecymru.org.uk/gwanwyn

Diwedd

 

Last updated: Awst 16 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top