Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Mae Age Cymru yn nodi wythnos ymwybyddiaeth unigrwydd gyda stori am sut mae un dyn hŷn yn cadw mewn cysylltiad â'r byd

Published on 16 Mehefin 2024 06:56 yh

 

Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd 10 -16 Mehefin 2024

Yn anffodus, mae unigrwydd yn gyffredin ymhlith pobl hŷn yng Nghymru.  Canfu ein hymchwil fod mwy na:

  • 75,000 o bobl hŷn yn dweud mai'r teledu neu eu hanifail anwes oedd eu prif gwmni
  • Mae 100,000 o bobl hŷn yn siarad â thri neu lai o bobl bob wythnos
  •    Meddai 330,000 o bobl hŷn yng Nghymru y byddai ychydig funudau o sgwrs yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'w hwythnos

Gall achosion unigrwydd fod yn gymhleth.  Mae rhai yn unig oherwydd bod eu hanwyliaid wedi marw, efallai bod eraill wedi mynd yn gaeth i'w cartrefi oherwydd salwch, neu efallai bod eu teulu a'u ffrindiau wedi symud i ffwrdd.

Fodd bynnag, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu oherwydd materion tu hwnt i'n rheolaeth fel unigolion. Mae mynediad at ofal iechyd yn dod yn fwyfwy anodd, sy'n golygu bod rhai pobl hŷn yn ei chael hi'n anodd gadael eu cartrefi oherwydd dirywiad diangen yn eu hiechyd.

Mae toriadau i wasanaethau bysiau cyhoeddus wedi lleihau cyfleoedd i bobl hŷn gael mynediad i'w cymunedau. Er bod yr argyfwng costau byw wedi gorfodi llawer o bobl hŷn i gwtogi ar weithgareddau cymdeithasol wrth iddynt geisio ymdopi ar incwm sefydlog isel.

Mae'r pandemig hefyd wedi gadael ei farc gan fod nifer wedi colli eu hyder i fod yn rhan o’u cymunedau.

Fodd bynnag, mae yna rywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud i helpu i leihau unigrwydd. Mae Age Cymru yn rhedeg gwasanaeth Ffrind mewn Angen sy'n paru pobl hŷn sy'n byw ar eu pennau eu hunain gyda gwirfoddolwr sy'n eu ffonio am sgwrs wythnosol.

Stori Des

Mae Des yn 83 oed ac yn byw ar ei ben ei hun ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.  Mae ganddo broblemau difrifol gyda’i olwg ond mae'n obeithiol y bydd triniaeth newydd yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd yn adfer rhywfaint o’i olwg mewn un llygad felly bydd yn gallu gweld lliwiau unwaith eto.

Er ei fod yn byw ar ei ben ei hun, meddai Des nad yw byth yn teimlo'n unig oherwydd y gofal y mae'n ei dderbyn gan ei ddwy ferch a'r alwad cyfeillgarwch wythnosol y mae'n ei dderbyn gan ei ffrind dros y ffôn, Remo, sy'n sgwrsio gyda Des bob wythnos.

Mae Remo wedi bod yn ffonio Des ers sawl blwyddyn ac nid yw byth yn colli galwad - hyd yn oed pan mae ar wyliau.  Meddai Des ei fod yn arbennig o hoff o'r galwadau o dramor gan ei fod yn teimlo fel petai'n gweld rhannau eraill o’r byd drwy ffenestr, er na fydd yn medru teithio yno oherwydd ei olwg gwael.

Meddai Des fod y galwadau nid yn unig yn darparu sgwrs ysgogol, ond maen nhw hefyd yn ei helpu i barhau i siarad.  Os na fyddwch yn siarad â rhywun yn rheolaidd, gallwch fynd yn dawel yn rheolaidd yn ystod sgyrsiau.

Mae Des, cyn-filwr o Warchodlu Dragoon y Frenhines (Calfari Cymreig), yn edrych ymlaen yn arbennig at wrando ar raglenni bydd yn coffáu D-day a bydd yn rhannu ei feddyliau gyda Remo yn ystod eu galwad nesaf.

Allech chi helpu rhywun fel Des i gadw mewn cysylltiad â'r byd gyda galwad cyfeillgarwch wythnosol?  Os felly, ffoniwch 0300 303 4498, e-bostiwch volunteer@agecymru.org.uk neu ewch i www.agecymru.org.uk/befriender.   

Ac os na allwch wirfoddoli, beth am gyfrannu er mwyn i ni fedru cyrraedd mwy o bobl fel Des? Bydd £15 yn cefnogi galwadau cyfeillgarwch i ddau berson hŷn bob wythnos: Ewch i www.agecymru.org.uk/donate.

Diwedd

 

 

 

Last updated: Meh 16 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top