Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Llythyr i'r Brif Weinidog ynglŷn a Taliadau Tanwydd Gaeaf

Published on 09 Medi 2024 03:38 yh

 Annwyl Brif Weinidog,  

Mae Age Cymru’n gweithio i wireddu gweledigaeth o gymdeithas sy’n cefnogi pawb yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod ni i gyd yn cael y profiadau gorau wrth i ni fynd yn hŷn. Cymdeithas ble mae pobl hŷn yn werthfawr, yn cael eu cynnwys, ac yn medru dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Mae ein timau ledled Cymru’n ceisio gwella bywydau pobl hŷn drwy ddarparu cyngor, cefnogaeth a gwasanaethau dibynadwy. Rydyn ni’n defnyddio ein gwybodaeth, ein mewnwelediadau a’n profiadau i ddylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau sy’n effeithio ar bobl hŷn. 

Hoffem achub ar y cyfle i’ch llongyfarch ar ddod yn Brif Weinidog a byddem yn croesawu’r cyfle i drafod profiadau pobl hŷn yng Nghymru maes o law.  Fodd bynnag, ar hyn o bryd rydym am rannu ein pryder mawr am newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i’r Taliad Tanwydd Gaeaf a fydd yn effeithio ar filoedd o bobl hŷn ledled Cymru.  Credwn yn gryf mai torri’r Taliad Tanwydd Gaeaf y gaeaf hwn, heb fawr ddim rhybudd a dim mesurau cydadferol i amddiffyn pensiynwyr tlawd a bregus, yw’r penderfyniad anghywir. 

Yn arolwg blynyddol Age Cymru yn 2024 gyda dros 1300 o bobl hŷn ledled Cymru clywsom fod bron i hanner y bobl hŷn yn gweld costau byw yn her dros y 12 mis diwethaf, a bod gan dros hanner y bobl hŷn broblemau gyda’u hiechyd corfforol. Bydd hyn ond yn gwaethygu gyda thoriadau i’r cymorth ariannol hanfodol hwn yn ystod misoedd y gaeaf.   

Rydyn ni'n poeni am dri grŵp allweddol:    

  • Y bobl sydd ar eu colled oherwydd bod eu hincwm cymedrol ychydig yn rhy uchel iddynt fod yn gymwys, fel arfer oherwydd bod ganddynt bensiwn galwedigaethol bach. Mae llawer o'r bobl hyn yn fenywod.    
  • Pobl sydd angen defnyddio llawer o ynni oherwydd anabledd neu salwch, a/neu sy'n byw mewn cartrefi sy'n defnyddio ynni'n aneffeithlon ac sy'n costio llawer o arian i'w gwresogi.    
  • 56,100 o bobl 66 oed a hŷn yng Nghymru a fydd yn colli allan ar Daliadau Tanwydd Gaeaf oherwydd prawf modd ond sy’n gymwys ond ddim yn derbyn Credyd Pensiwn.  

Dim ond tri mis o rybudd sydd wedi bod ar gyfer y newid hwn – a bydd pobl hŷn wedi disgwyl cael yr arian hwn yn eu pocedi eleni. Yn syml, nid oes digon o amser i lawer weithio allan cynllun arall. 

I wneud pethau'n waeth, nid dyma'r unig gefnogaeth gyda chostau ynni sy'n diflannu eleni sy'n golygu y gallai fod gan bensiynwyr £600 yn llai'r gaeaf hwn er bod biliau ynni'n parhau i fod yn ddrud.  

Rydym yn gweithio gyda’n phartner, Age UK ar deiseb ‘Arbed Taliadau Tanwydd Gaeaf’  ac mae 18,067 o’r llofnodu wrth bobl hŷn neu wrth ei teulu neu ffrindiau o bobl hŷn ledled Cymru. Rydym wedi torri’r data i lawr o’r llofnodau sydd yn dangod pryderion pobl cyn yr trafodaeth yn Ty’r Cyffredin (Medi 10fed).  

  • Dywedodd 16,441 o’r bobl wnaeth lofnodi’r ddeiseb yng Nghymru fod torri Taliad Tanwydd Gaeaf yn effeithio arnyn nhw neu anwyliaid 
  • Dywedodd 4,207 o’r rhai a lofnododd y ddeiseb eu bod ychydig uwchlaw’r trothwy i gael Credyd Pensiwn  
  • Wnaeth 1,317 o’r bobl wnaeth lofnodi ddweud bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu. 
  • Dywedodd 408 o’r rhai wnaeth lofnodi’r ddeiseb sydd â chyfrifoldebau gofalu eu bod ychydig yn uwch na’r trothwy i dderbyn credyd pensiwn 
  • Dywedodd 935 o bobl eu bod ychydig yn uwch na’r trothwy i gael Credyd Pensiwn a'u bod yn talu rhent neu forgais 
  • Wnaeth 650 a lofnododd y ddeiseb eu bod ychydig yn uwch na’r trothwy i gael Credyd Pensiwn yng Nghymru a ddywedodd hefyd eu bod yn cael lwfans gweini neu Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) 

Rydyn ni wedi bod yn clywed gan bobl yng Nghymru sut y byddan nhw'n ei chael hi'n anodd iawn heb y Taliad Tanwydd Gaeaf - gyda phobl yn torri lawr ar fwyd, gwres a dŵr poeth. Rydym yn clywed gan bobl â chyflyrau iechyd hirdymor sy'n gorfod cael cartref cynnes, felly mha nhw wedi dweud wrthym ni y bydd yn rhaid iddynt dorri'n ôl ar fwyd.  

Byddem yn falch o weithio gyda chi i liniaru'r effeithiau hyn ac os byddai'n ddefnyddiol, byddem yn hapus i drefnu i chi glywed rhai o'r pryderon yn uniongyrchol gan bobl hŷn. 

Yn Gwir,  

Victoria Lloyd (Prif Weithredwr) 

 

Last updated: Medi 09 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top