Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Helpu pobl hŷn i ymdopi â phroblemau bob dydd

Published on 17 Mai 2024 02:46 yh

Menyw hŷn yn gofyn am help dros y ffôn

I rai pobl hŷn, gall ymdopi â materion bob dydd fel cael mynediad at wasanaethau meddyg teulu, ymdopi â chyflenwyr ynni, neu gymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol fod yn anodd.

Ond nawr, gall unrhyw un yng Nghymru dros 50 oed, neu sy'n gofalu am berson hŷn, gael cymorth am ddim gan wasanaeth HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu).

Mae'n brosiect partneriaeth a ddarperir gan Age Cymru ac Age Connects Cymru, ynghyd â'u partneriaid lleol, ac mae ar gael ledled Cymru.

Mae HOPE yn defnyddio gwirfoddolwyr hyfforddedig i helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau hanfodol, ac i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud dewisiadau gwybodus, ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol, cymryd rhan mewn bywyd cymunedol, a deall eu hawliau'n well.

Mae'n ceisio helpu pobl i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed pan fydd penderfyniadau pwysig sy'n effeithio ar eu bywydau yn cael eu gwneud.

Am fwy o wybodaeth am brosiect HOPE ffoniwch 029 2043 1555, e-bostiwch advocacy@agecymru.org.uk neu ewch i www.agecymru.org.uk/advocacy.  

Ers i'r prosiect ddechrau yn 2021 mae wedi cefnogi bron i 3,000 o bobl hŷn a'u gofalwyr. Dyma oedd gan rai ohonyn nhw i'w ddweud am wasanaeth HOPE:

  • Roedd fy eiriolwr yn garedig iawn ac roedd hi’n hawdd siarad â nhw. Roedd hi’n galw ar amser bob tro, ac roedd yr holl beth yn gweithio’n dda. Rydw i mor falch oherwydd ar ôl aros am ddwy flynedd i ddatrys fy mhroblem, mae pobl yn dod i’r tŷ i’m helpu mewn dwy wythnos.

Roeddwn i'n teimlo bod gen i gefnogaeth, ac roedd hi’n bosib i’r eiriolwr i fynychu cyfarfodydd gyda mi. Roedd hynny'n gefnogaeth fawr. Mae wedi bod yn achubiaeth go iawn i wybod nad ydw i ar fy mhen fy hun ac rwy'n ddiolchgar iawn, iawn.

  • Roedd yn braf gwybod bod rhywun ar ben arall y ffôn ac yn poeni digon amdanaf i ffonio. Mae'r eiriolwr wedi bod yn hollol wych wrth ddarparu help i mi.

Ni allwn ddweud diolch digon o weithiau. Roedd y sefyllfa yn achosi pryder ofnadwy a nifer o nosweithiau digwsg. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl gymorth a chefnogaeth a gawsom. Rydych chi wedi bod yn anhygoel, ac nid wyf yn gwybod beth fyddai wedi digwydd heb eich caredigrwydd a'ch cefnogaeth.

  • Roedd yr help rydw i wedi'i gael yn ardderchog. Rydw i ar ben fy hun, ond roeddwn i'n teimlo nad oeddwn i ar fy mhen fy hun gyda chi yn fy nghornel i.
  • Mae’r holl gefnogaeth rydw i wedi ei dderbyn wrth HOPE wedi bod yn ardderchog a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd wnaeth helpu.

 Byddwn i ar goll heboch chi. Doeddwn i ddim wedi bwyta'n iawn ers misoedd oherwydd y straen, ond nawr mae gen i opsiynau ynglŷn â ble gallaf gael mwy o gefnogaeth, mae gen i dystiolaeth, ac rwy'n teimlo'n llawer gwell. Diolch.

 

Last updated: Mai 17 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top